Sgwennu’n Well 2026-2027: Agor i Geisiadau

Dyddiad cau: 12.00 hanner dydd, Dydd Mawrth 6 Hydref 2026
Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac yn eich cymuned leol?
Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth a natur i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn raglen datblygu proffesiynol gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer 10 o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa i ddatblygu eu sgiliau a gwybodaeth, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant.
Mae gan y rhaglen ddau opsiwn:
Opsiwn 1
- 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles (Tachwedd 2026 – Ionawr 2027). Bydd y sesiynau’n ymdrin â Diogelu, Cynllunio Prosiectau, Gwerthuso Creadigol, Codi Arian a mwy.
- 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (26 – 28 Chwefror 2027)
- Cefnogaeth wedi ei deilwra. Mae sawl opsiwn ar gyfer y gefnogaeth hon. Er enghraifft, gall fod yn gyfres o sesiynau mentora gyda ffrind creadigol, neu gyfle i gysgodi hwylusydd creadigol. Bydd y rhan hon o’r rhaglen yn cael ei thrafod a’i phenderfynu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus fel y gallwn gynnig yr opsiwn gorau yn seiliedig ar eu gofynion a’u amcanion.
Mae 5 lle ar gael ar gyfer Opsiwn 1. Efallai y bydd yr opsiwn hwn yn apelio atoch os ydych chi’n hwylusydd llenyddol sydd eisoes yn cynnal prosiectau cymunedol, neu’n gweithio mewn sefydliadau fel llyfrgelloedd, elusennau, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai, ac yn dymuno cynyddu eich gwybodaeth a’ch sgiliau wrth gyflwyno gweithdai sy’n ymwneud yn benodol gydag iechyd a lles. Mae hefyd yn addas i’r rhai sydd â phrofiad ymarferol cyfyngedig ac a hoffai gysgodi awdur arall neu gael cefnogaeth i ddyfeisio prosiect yr hoffech ei redeg yn y dyfodol.
Opsiwn 2
- 5 sesiwn hyfforddi arlein yn cynnwys hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar gelfyddydau ar gyfer iechyd a lles (Tachwedd 2026 – Ionawr 2027).
- 1 encil penwythnos wyneb yn wyneb dan arweiniad clare e. potter ac Iola Ynyr yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (26 – 28 Chwefror 2027)
- Pot o £3000 i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso prosiect hwyluso (i’w gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2027)
- 3 sesiwn gyda mentor/ffrind creadigol
- Cymorth i werthuso a dogfennu eich prosiect
Mae 5 lle ar gael ar gyfer Opsiwn 2. Efallai y bydd yr opsiwn hwn yn apelio atoch os ydych chi’n hwylusydd ar ddechrau eich gyrfa sydd â rhywfaint o brofiad o hwyluso ac sydd â syniad prosiect penodol mewn golwg yr hoffech ei dreialu. Bydd y prosiect yn cael ei redeg mewn partneriaeth â sefydliad lleol gyda’r nod o gefnogi Iechyd a Llesiant y cyfranogwyr.
I ddarllen y manylion yn llawn, gan gynnwys beth yn union mae’r rhaglen yn ei olygu, beth yw’r meini prawf cymhwysedd, a sut i wneud cais, ewch i dudalen brosiect Sgwennu’n Well.