Dewislen
English
Cysylltwch

Sgyrsiau Creadigol – Cyhoeddi Digwyddiadau Newydd

Cyhoeddwyd Maw 6 Medi 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Sgyrsiau Creadigol – Cyhoeddi Digwyddiadau Newydd

Rydym yn falch iawn o rannu’r ddau sesiwn nesaf yn ein rhaglen o Sgyrsiau Creadigol, cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i awduron ac arweinwyr gweithdai

Mae ein Sgyrsiau Creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau byrion sy’n rhedeg unwaith y mis i ysbrydoli awduron a phobl creadigol Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd agored a hygyrch i ddysgu rhagor am ddefnyddio llenyddiaeth mewn gweithdai cyfranogi, ac yn helpu unigolion i barhau â’u datblygiad proffesiynol fel awdur.

Maent hefyd yn gyfle i gwrdd ag awduron o’r un anian, cyfnewid syniadau, rhannu arfer da, adnoddau a chysylltiadau, a mwynhau sgyrsiau creadigol. Mae’r rhaglen hon wedi ei datblygu o ganlyniad i sesiynau adborth ac ymgynghori a gynhaliwyd ag awduron ledled Cymru yn 2021.

Mae pob sesiwn 90 munud o hyd yn rhad ac am ddim. Nod Sgyrsiau Creadigol yw cyfrannu at adeiladu rhwydwaith broffesiynol o awduron yng Nghymru, ac i sicrhau ecosystem lenyddol cynrychioladol, amrywiol a bywiog.

Caiff y sesiynau eu cynnal ar Zoom, a bydd isdeitlau byw ym mhob un ohonynt. Byddwn yn ymdrechu i gwrdd a gofynion mynediad eraill lle mae hynny’n bosib – cysylltwch â ni gydag unrhyw ofynion, ofidiau neu geisiadau.

 

Digwyddiadau ar y gweill:

Sgyrsiau Creadigol 7: Cynrychioli Iechyd Meddwl yn gywir yn eich gwaith creadigol, ac osgoi stereoteip mewn cymeriadau ffuglennol gyda Paul Whittaker a Tamsin Griffiths

Dydd Iau 13 Hydref 2022, 12.00 hanner dydd – 1.30 pm

Ymunwch â Paul a Tamsin i ddarganfod sut i greu cymeriadau heb stereoteip, gan gymryd ysbrydoliaeth o brofiadau byw.

Sgyrsiau Creadigol 8: Creu eich cylchgrawn, llyfr neu dŷ cyhoeddi annibynnol eich hunain gyda Jannat Ahmed

Dydd Iau 3 Tachwedd 2022, 12.00 hanner dydd – 1.30 pm

Ymunwch â Jannat i archwilio’r llwybrau tuag at gyhoeddi annibynnol, a rhannu adnoddau, syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer creu eich cylchgrawn, llyfr neu dŷ cyhoeddi annibynnol eich hunain

Sgyrsiau Creadigol 9: Gweithdai ysgrifennu creadigol gyda Casi Wyn ac Aneirin Karadog

Dydd Iau 1 Rhagfyr 2022, 12.00 hanner dydd – 1.30 pm

Yn y gweithdy hwn, bydd Bardd Plant Cymru, Casi Wyn, a’r bardd Aneirin Karadog yn rhannu eu cyngor ar sut i ennyn diddordeb plant mewn barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol, gan ddefnyddio awgrymiadau a thechnegau hwyliog i annog cariad gydol oes at eiriau a chreadigrwydd.