Dewislen
English
Cysylltwch

Speak Back: Croesawu 14 o feirdd ac artistiaid perfformiadol i Dŷ Newydd

Cyhoeddwyd Llu 3 Maw 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Speak Back: Croesawu 14 o feirdd ac artistiaid perfformiadol i Dŷ Newydd
Ddydd Llun 3 Mawrth, bydd 14 awdur yn teithio i Dŷ Newydd i ddechrau preswyliad 5 diwrnod rhad ac am ddim. Bydd y preswyliad yn canolbwyntio farddoniaeth perfformiadol (Spoken Word).

Wedi gwneud ei ffordd i mewn i’r Grammies a’r Forward Prizes, mae Spoken Word bellach yn ennill ei blwyf ac yn raddol dderbyn y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu. I ddathlu’r ffurf gelfyddydol ddeinamig a phwerus hon, ac i gefnogi artistiaid Cymreig sydd â diddordeb yn y grefft ond sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y byd llenyddol yng Nghymru, lansiodd Llenyddiaeth Cymru alwad agored yn gwahodd artistiaid i ymgeisio am y cyfle hwn.

Y beirdd a’r artistiaid perfformiadol sydd wedi’u dewis i fynychu’r encil yw: Emma Katy, Kat Budd, Molara Awen, Nicky Hetherington, Tia-zakura Camilleri, CJ Wagstaff, Regina Beach, Jodi Ann Nicolson, Megan Lloyd, Suzanna Iuppa, Tamia Watson, Katrina Moinet, Gwenhwyfar Ferch Rhys a Frankie Walker.

Gallwch ymweld â thudalen gwefan Speak Back i ddarganfod mwy am garfan hon o awduron.

Bydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn ymddangos drwy gydol yr wythnos gan gynnwys y bardd, awdur a pherfformiwr arobryn Hollie McNish, enillydd teitlau SLAM amrywiol Vanessa Kisuule, y bardd a golygydd barddoniaeth arobryn Seren Books Rhian Edwards a’r bardd, athro, cyflwynydd radio rhaglen farddoniaeth wythnosol, a Chadeirydd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol Daljit Nagra.

Daw’r wythnos i ben gyda noson ddathlu i glywed perfformiadau gan y grŵp. Yn dilyn y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gefnogi’r garfan i gyrraedd eu nodau perfformio a chyhoeddi.


I ddarganfod mwy am y ffyrdd y mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfleoedd datblygu i awduron, ewch i’r dudalen Rwy’n Awdur.  

Rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: Y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Sefydliad Foyle.