Speak Back: Cyfle i feirdd ac artistiaid perfformiadol

P’un a ydych chi’n fardd sy’n perfformio sy’n gobeithio gwella eich sgiliau ac arbrofi gyda’ch llais, neu’n fardd sydd â diddordeb archwilio sut y gallech drosglwyddo eich barddoniaeth o’r dudalen i’r llwyfan, mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi.
Bydd ‘Speak Back’ yn cael ei arwain gan Taylor Edmonds a Kandace Siobhan Walker. Cyhoeddwyd pamffled barddoniaeth gyntaf Taylor, Back Teeth gan Broken Sleep Books yn 2022, a hi oedd Bardd Preswyl 2021-22 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf Kandace, Cowboy, gan Cheerio yn 2023. Daeth i’r brig yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024, ac mae wedi cyrraedd rhestrau byrion llawer o wobrau mawreddog, gan gynnwys Gwobr Farddoniaeth Casgliad Cyntaf Seamus Heaney.
Mae perfformio barddoniaeth yn gelfyddyd ynddi ei hun, ac erbyn hyn mae’n dechrau cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu. Yn 2022, cafodd y gelfyddyd ei chydnabod gan y Grammys wrth iddyn nhw gyflwyno gwobr newydd am y ‘Best Spoken Word Album’, ac yn 2023, cyflwynodd The Forward Prizes gategori newydd ar gyfer perfformiad o gerdd.
Yn dilyn encil llwyddiannus i artistiaid perfformio yn y Gymraeg yn 2023, cynhelir gweithgaredd y rhaglen hon trwy gyfrwng y Saesneg. Serch hynny, mae croeso cynnes i’r rheiny sy’n ymarfer eu crefft trwy gyfrwng y Gymraeg ymuno gan y bydd y sgiliau yn rhai y gellid eu trosglwyddo i’ch perfformiadau yn y Gymraeg.
Mewn cyfnodau o heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol, gan amlaf, y celfyddydau sy’n eirioli dros newid yw’r rhai mwyaf llwyddiannus. Gall y celfyddydau siarad â’r galon a gallant fod yn arf effeithiol wrth siarad a chyfleu teimladau i’r rhai sydd mewn grym. Ond pa leisiau sy’n cael eu clywed? Mae angen amrywiaeth o leisiau, credoau a phrofiadau arnom i ystyried safbwyntiau newydd ac i gynrychioli pob cymuned. Bydd beirdd sy’n ysgrifennu ar amrywiaeth o themâu gwahanol yn cael eu croesawu i’r encil hwn, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn themâu sy’n cynnwys hunaniaeth, yr argyfwng hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd, a chyfiawnder cymdeithasol yng nghyd-destun Cymru.
Yn ystod y preswyliad, bydd awduron a pherfformwyr yn mireinio eu crefft trwy amrywiaeth o weithdai ac ymarferion grŵp. Bydd perfformiadau gan artistiaid gwadd, a bydd y grŵp yn clywed gan gynrychiolwyr o’r diwydiant cyhoeddi a threfnwyr gwyliau, er mwyn dysgu sut i ddatblygu eu gyrfaoedd. Daw’r wythnos i ben gyda noson o berfformiadau gan y grŵp. Yn dilyn y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gefnogi’r garfan i gyrraedd eu nodau personol.
Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am feirdd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y byd cyhoeddi a pherfformio barddoniaeth yng Nghymru. Gellir darllen rhagor am hyn yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin. Rhaid i awduron fod yn 18 oed neu’n hŷn i wneud cais. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan awduron nad ydynt wedi elwa o’r blaen o raglenni datblygu Llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys cyrsiau ac encilion sydd am ddim, a rhaglenni megis Cynrychioli Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, meini prawf cymhwysedd a manylion ar sut i wneud cais ar dudalen y cwrs Speak Back. Mae’r holl ddogfennau hefyd ar gael mewn print bras a fformatau dyslecsia gyfeillgar.
Rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: Y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Sefydliad Foyle.