Dewislen
English
Cysylltwch

Taith Gerdded ‘Green and Carefree’ y Children’s Laureate Wales

Cyhoeddwyd Llu 3 Meh 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Taith Gerdded ‘Green and Carefree’ y Children’s Laureate Wales
Mae Alex Wharton, y Children’s Laureate Wales, wedi ‘mestyn ei sgidiau cerdded ac mae’n barod i gerdded dros 40 milltir mewn 5 diwrnod, gan ymweld â 5 ysgol gynradd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ei daith.

Gan ddechrau o’i gartref ym Mhont-y-pŵl, bydd Alex yn cerdded i Ysgol Gynradd Cantref, Y Fenni, ymlaen tuag at Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg, Ysgol Gynradd Gymunedol Llangyndir, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangors, cyn gorffen ei daith yn Ysgol y Mynydd Du, Talgarth.

Bydd y prosiect hwn, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Darkley, yn dod â bardd arbennig i ysgolion mewn ardaloedd gwledig, gan roi blas iddynt o brofiad llenyddol ac artistig o ansawdd uchel. Yn dilyn canlyniadau Pisa diweddaraf Cymru, ni ellir gwadu’r angen am y profiadau hyn.

Mae buddion niferus i blant sy’n cael ymweliadau gan awduron yn eu hysgolion. Maent yn gwneud llenyddiaeth yn llai o fwgan, yn ysbrydoli ac yn magu hyder, ac yn dangos pa mor hudolus y gall ysgrifennu a darllen creadigol fod. Mae Llenyddiaeth Cymru yn frwd dros sicrhau mwy o weithgareddau llenyddol o ansawdd uchel mewn ysgolion, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae llai o gyllid ar gael i wahodd awduron i ymweld â’u hysgolion.

Fel y clerwyr gynt, bydd Alex yn cerdded o un lleoliad i’r llall, gan rannu cerddi a straeon o’r ysgol y bu’n ymweld â hi y diwrnod blaenorol. Ffocws ei weithdai a pherfformiadau fydd natur a bywyd gwyllt. Y nod yw rhoi’r sgiliau i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 fynegi syniadau trwy farddoniaeth, archwilio pwysigrwydd gofalu am fywyd gwyllt a natur leol, meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn eu hardaloedd lleol, a grymuso’r dysgwyr i gymryd perchnogaeth ohonynt.

Mae Alex Wharton yn fardd a pherfformiwr arobryn sy’n ysgrifennu i blant ac oedolion. Ef yw’r Children’s Laureate Wales tan hydref 2025. Mae Alex yn hynod angerddol am natur a bywyd gwyllt. Mae wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd Pont-y-pŵl gyda’i gŵn, yn dysgu am flodau a phlanhigion lleol, ac mae am rannu’r chwilfrydedd a’r cariad hwnnw at natur a barddoniaeth gyda phlant mewn ardaloedd gwledig. Bydd y prosiect hwn yn cyfuno manteision iechyd a lles dysgu, ysgrifennu am, a bod ym myd Natur tra hefyd yn  cydnabod pwysigrwydd arsylwi ac ysgrifennu am ein hamgylchedd lleol yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.

 

Gallwch ddilyn taith Alex ar y cyfryngau cymdeithasol – mae’r holl ddolenni perthnasol i’w gweld isod.

Instagram Llenyddiaeth Cymru

Instagram Alex Wharton

Twitter Llenyddiaeth Cymru

Facebook Llenyddiaeth Cymru

Twitter Children’s Laureate Wales

 

Dyma amserlen y daith:

Diwrnod 1: Dydd Llun 3 Mehefin 2024

Taith gerdded 12 milltir o Bont-y-pŵl i Ysgol Gynradd Cantref, Y Fenni

Gwasanaeth a gweithdy 1 awr.

Taith gerdded 6.5 milltir i Langatwg.

 

Diwrnod 2: Dydd Mawrth 4 Mehefin

Gwasanaeth a gweithdy 1 awr yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangatwg.

Taith gerdded 4.4 milltir i Langyndir.

 

Diwrnod 3: Dydd Mercher 5 Mehefin

Gwasanaeth a gweithdy 1 awr yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llangyndir.

Taith gerdded 6 milltir i Langors.

 

Diwrnod 4: Dydd Iau 6 Mehefin

Gwasanaeth a gweithdy 1 awr yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llangors.

Taith gerdded 4.7 milltir i Tagarth

 

Diwrnod 5: Dydd Gwener 7 Mehefin

Gwasanaeth a gweithdy 1 awr yn Ysgol y Mynydd Du, Talgarth.