Dewislen
English
Cysylltwch

Y bardd blaenllaw Menna Elfyn yn ennill gwobr nodedig ‘Cholmondeley Award’ gan The Society of Authors.

Cyhoeddwyd Mer 1 Meh 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Y bardd blaenllaw Menna Elfyn yn ennill gwobr nodedig ‘Cholmondeley Award’ gan The Society of Authors.
Mae’r Athro Barddoniaeth Emerita, a chyn Fardd Plant Cymru, Menna Elfyn yn cael ei hanrhydeddu gydag un o brif wobrau Cymdeithas yr  Awduron, ‘Society of Authors’, mewn seremoni arbennig yn Eglwys Gadeiriol Southwark, Llundain ar y 1af o Fehefin, 2022.

Rhoddir y Wobr Cholmondeley yn flynyddol i fardd nodedig gan banel o feirniaid er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad sylweddol  bardd i farddoniaeth.  Yn flaenorol, rhoddwyd yr un wobr i Seamus Heaney, Carol Ann Duffy ac Andrew Motion.

Mae’r wobr yn arwyddocaol am mai dyma’r tro cyntaf erioed i fardd sy’n ysgrifennu yn llwyr yn y Gymraeg dderbyn y fath gydnabyddiaeth am ei chyfraniad i farddoniaeth Gymraeg a hynny yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Wrth gyhoeddi’r wobr, dywedodd Deryn Rees Jones ar ran y panel:

“Mae Menna Elfyn yn ffigwr blaenllaw ym myd barddoniaeth gyfoes Cymru, yn ysgrifennu yn Gymraeg yn unig. Yn wir ryngwladolwraig, mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i dros ddeunaw iaith. Cyhoeddir ei chasgliadau dwyieithog diweddaraf yn Gymraeg a Saesneg gan Bloodaxe. Mae Elfyn yn ysgrifennu am bethau personol a phethau bob dydd, byd natur ac am brofiad merched, bob amser yn gallu trawsnewid ei hymwybyddiaeth o’r bach, a’r prydferth, i’r affeithiol ac yn aml, wedyn, y gwleidyddol. Mae ei gwaith yn heriol ac yn dosturiol yn ei dro, heb ofn llawenydd, ac yn llawn egni cymuned, gan gynnig trwy rym iaith, wirionedd, cysur a phosibilrwydd.”

Wrth dderbyn y wobr dywedodd Menna Elfyn:

“Rwy’n falch o dderbyn yr anrhydedd hon yn dilyn fy llwyddiant i rannu fy marddoniaeth Gymraeg: ei chyfoeth a’i swyn i’r byd.”

Cyhoeddodd bymtheg cyfrol o farddoniaeth ac mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i ugain o ieithoedd. Mae’r Wasg Bloodaxe wrth eu bodd iddi gael ei chydnabod yn sgil ei chyfrolau cyfochrog yn Gymraeg a Saesneg, sef penderfyniad a wnaeth ynghanol y nawdegau er mwyn rhannu ei gwaith gyda darllenwyr, rhai y dymunai iddynt allu darllen ei gwaith yn y ddwy brif iaith yng Nghymru.  Dilynwyd hyn gyda chyfrolau mewn ieithoedd amrywiol ac yn dilyn y cam dewr hwn anrhydeddwyd hi gyda gwobr Rhyngwladol Anima Istranza am ei chyfraniad i farddoniaeth Ewropeaidd mewn seremoni arbennig yn Sardinia.

Ei chyfrolau dwyieithog mwyaf diweddar yw Murmur,  o Wasg Bloodaxe, a ddewiswyd yn ‘ Poetry Society Recommended Translation’ yn Hydref 2012 a Bondo, eto o Wasg Bloodaxe yn 2017, cyfrol sy’n cyfleu tristwch a thrasiedi Aberfan.

Yn Ebrill 2022, cyhoeddodd gyfrol Gymraeg Tosturi gyda Chyhoeddiadau Barddas.

Fe’i ganed yng Nglanaman a’i magu yng Nghwm Tawe cyn symud i Sir Gaerfyrddin  yn ei harddegau. Astudiodd ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, cyn darlithio yn rhan amser yng Ngholeg  Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Dychwelodd yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Saesneg a sefydlodd hefyd Ysgol Haf  Rhyngwladol Dylan Thomas yn 2014. Mae’r preswylfeydd ysgrifennu a’r darlleniadau niferus a gynhaliodd ar draws y byd o’r Unol Daleithiau, India a gwledydd niferus yn Ewrop  wedi golygu ei bod yn ystyried  ei hun yn fardd rhyngwladol ac eto’n gweld y byd drwy ffenest yr iaith Gymraeg.  Ysgrifenna am yr anghofiedig, y rhai sydd â’u lleisiau’n ddistaw neu heb eu clywed o gwbl, ac yn aml gwna hyn  gyda hiwmor deifiol.

Mae hi hefyd yn ddramodydd a libretydd ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddrama a gomisiynwyd gan ‘National Theatre Wales’ ar gyfer 2023.