Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn lansio #GwleddyGwanwyn yn y Senedd gyda cherdd newydd gan Children’s Laureate Wales
Lansiodd yr elusen gadwraeth #GwleddyGwanwyn yn 2020, gan geisio efelychu Hanami – dathliad o flodau blynyddol yn Japan, sy’n cael ei gysylltu â dyfodiad y gwanwynBob gwanwyn ers 2020, mae miloedd o bobl yn tynnu a rhannu lluniau o goed yn eu blodau ar hyd y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #GwleddyGwanwyn neu #BlossomWatch.
Fel rhan o #GwleddyGwanwyn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru hefyd yn cysylltu mwy o bobl â byd natur drwy weithio gyda phartneriaid a chynrychiolwyr lleol i blannu coed blodeuog yn y lleoedd sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth a thu hwnt, gan gynnwys ysgolion lleol, canolfannau iechyd, ac ardaloedd trefol ar draws Cymru. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae coed blodeuog wedi eu plannu ym mherllan Cei Stagbwll, Sir Benfro, lle bydd y ffrwythau’n cael eu defnyddio yn yr ystafell de a bydd y coed yn cael eu gweld gan filoedd o ymwelwyr ar eu taith i Fae Barafundel. Cafodd coed blodeuog a bylbiau eu plannu mewn dwy stâd o dai yn Llanedern, Caerdydd, lle bydd y gymuned leol yn eu gwarchod, a chafodd coeden ei gosod yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi i gleifion a gweithwyr allweddol gael ei mwynhau.
I ddathlu lansio #GwleddyGwanwyn 2022 yng Nghymru, mae Children’s Laureate Wales, Connor Allen, wedi cyfansoddi cerdd newydd gyda’r teitl ‘In these times’.
Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Mae’r prosiect wedi ymrwymo i rymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd. Fel rhan o’r rôl, mae Connor yn mynd ati i ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc. Un o brif flaenoriaethau’r prosiect eleni yw’r argyfwng hinsawdd.
Cafodd y gerdd ei hysbrydoli mewn gweithdy gyda disgyblion o Ysgol gynradd Penyrheol, Gorseinon, Abertawe. Fe aeth pedwar o’r disgyblion ifanc i’r digwyddiad yn y Senedd i glywed y darlleniad cyntaf o’r gerdd a chael sgwrs gyda Connor a Sian Lloyd am eu profiad yn y gweithdy barddoniaeth ac o fod yn rhan o’r plannu coed blodeuog. Gydag Ysgol Gynradd Penyrheol y cydweithiodd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Aelod o’r Senedd gyntaf i blannu coed blodeuog fel rhan o #GwleddyGwanwyn y llynedd. Cyfansoddwyd y cyfieithiad Cymraeg gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Cyfansoddwyd y gerdd gan y Children’s Laureate Wales mewn partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.
Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Mae pawb yn haeddu cael mynediad at fyd natur a harddwch. Mae creu lle i fyd natur gael ffynnu ac i bobl gael llefydd i obeithio a myfyrio yn ganolog i’n gwaith yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Dyna pam ein bod mor falch o fod yn gweithio gyda’n partneriaid i ddod â llawenydd y gwanwyn i bobl ledled Cymru, naill ai drwy blannu coed blodeuog mewn trefi, dinasoedd a lleoedd sydd dan ein gofal neu drwy annog pobl i rannu lluniau o goed yn eu blodau ar gyfyngau cymdeithasol.”
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr, Llenyddiaeth Cymru:
“Mae dathlu’r ddolen rhwng llenyddiaeth a llesiant wrth galon yr hyn a wnawn, yn ogystal ag annog eiriolaeth greadigol ar gyfer gweithredu dros yr hinsawdd. Mae cysylltu’r amcanion hyn drwy gydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn bleser pur. Nod menter Children’s Laureate Cymru yw grymuso plant i fynegi eu hunain yn greadigol ynghylch beth mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw. Yn ei dro, mae mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd a rhoi llais i orbryder eco pobl ifanc yn elfen annatod o’r fenter. Rydym yn gobeithio y bydd y gerdd yn annog pawb, o bob oed, i fwynhau, gwerthfawrogi, a gwarchod byd natur o’u cwmpas.”