Ymgeisiwch nawr: Cyfle newydd i egin awduron ffuglen

Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am awduron ffuglen sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y byd cyhoeddi yng Nghymru. Gellir darllen canllawiau pellach ar hyn yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin. Rhaid i awduron fod yn 18 oed neu’n hŷn ar adeg y cais. Rydym yn benodol awyddus i dderbyn ceisiadau gan awduron nad ydynt wedi elwa o raglenni datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru neu ein hencilion rhad-ac-am-ddim yn Nhŷ Newydd o’r blaen.
Mae hi’n fraint croesawu rhai o awduron ffuglen mwyaf cyfoes a chyffrous Cymru i diwtora’r cwrs hwn. Mae rhyddiaith farddonol a chynnil Anthony Shapland yn cyferbynnu’n llwyr â nofelau Francesca Reece, sy’n cael eu gyrru gan blot ac yn troi tudalennau – gyda’r ddau yn rhannu dawn o ddod â lleoliadau eu naratif yng ngwahanol rannau o Gymru yn fyw fel cymeriadau yn eu llyfrau. Bydd Joshua Jones yn ymuno fel darllenydd gwadd, sydd hefyd yn feistr ar greu ymdeimlad o le trwy ei straeon byrion, sydd bob amser yn cynnwys cast eclectig o gymeriadau.
Mae’r tri awdur wedi cymryd rhan mewn rhaglenni datblygu awduron sy’n gysylltiedig â Llenyddiaeth Cymru ac maent yn edrych ymlaen at drosglwyddo eu dysg i’r genhedlaeth nesaf o egin awduron ffuglen o bob oed.
Yn ystod y preswyliad, bydd yr awduron yn mireinio eu crefft drwy amrywiaeth o weithdai ac ymarferion grŵp. Byddant yn derbyn cyngor ac adborth unigol gan y ddau diwtor a byddant yn clywed gan gynrychiolwyr o fewn y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth – gan gynnwys Folding Rock, Cylchgrawn Granta a Stinging Fly i enwi dim ond rhai – i ddysgu am gyfleoedd a llwybrau gyrfa. Yn dilyn y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan i gyflawni eu huchelgeisiau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 pm, dydd Mercher 24 Medi 2025.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, meini prawf cymhwysedd a manylion ar sut i wneud cais ar dudalen y cwrs Ysgrifennu Ffuglen. Mae’r holl ddogfennau hefyd ar gael mewn fformat print bras a dyslecsia gyfeillgar. Rydym yn ddiolchgar i’n harianwyr sydd wedi gwireddu’r cwrs hwn: Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton (The Fenton Arts Trust).
Mwy o wybodaeth am eich tiwtoriaid a’ch siaradwr gwadd:
Francesca oedd derbynnydd Gwobr Desperate Literature 2019 am ei stori fer So Long Sarajevo/They Miss You So Badly, a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Voyeur, gan Tinder Press yn 2021 a’i disgrifio gan un adolygydd fel “Llyfr hafaidd, swynol . . . hynod o ffraeth, rhaid ei darllen . . . fel Sally Rooney yn cwrdd â Martin Amis ym Mharis”. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn The London Magazine, Banshee ac Elle UK. Cyrhaeddodd ei hail nofel, Glass Houses (Tinder Press, 2024), restr fer categori Ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025.
Magwyd Anthony yng Nghwm Rhymni ac ef yw cyd-sylfaenydd g39, sefydliad a redir gan artistiaid a gofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd. Cafodd ei gynnwys ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies am Foolscap, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn y flodeugerdd Cree (Parthian, 2022). Mae ei waith wedi ymddangos mewn amrywiol flodeugerddi fel Cymru & I (Inclusive Journalism/Seren, 2023) ac yn dilyn bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru, yn (un)common (Lucent Dreaming, 2024). Cafodd gwaith Anthony ei gynnwys yn rhifyn cyntaf cylchgrawn llenyddol Folding Rock, a darlledwyd ei waith ffuglen, Feathertongue, fel rhan o gyfres Short Works BBC Radio 4 yn hydref 2024. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Room Above a Shop gan Granta yng ngwanwyn 2025 i glod mawr, a chyfeiriwyd ati yn The Observer fel “un o’r nofelau cyntaf gorau ers blynyddoedd”.
Mae Joshua Jones yn awdur ac artist cwiar, anabl o Lanelli. Mae wedi cyhoeddi amryw o bamffledi barddoniaeth, gan gynnwys A Fistful of Flowers mewn cydweithrediad â Caitlin Flood-Molyneux (2022), Three Months in the Zebra Room (Hello America Stereo Cassette, 2024), a The City on Film (Bread and Roses). Cyrhaeddodd ei gasgliad cyntaf o straeon byrion Local Fires (Parthian, 2023) restr fer Gwobr Dylan Thomas 2024 a Gwobr Llyfr Cyntaf Polari 2024. Ef yw golygydd Room/Ystafell/Phòng (Parthian, 2023) ac mae’n Olygydd Cyfrannol i gylchgrawn Folding Rock.