Yn Galw Plant Creadigol Cymru!
I ddathlu bod Cymru wedi cyrraedd Gemau Ail-gyfle EWRO Menywod UEFA am y tro cyntaf, mae Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-Droed Cymru yn galw ar blant Cymru i ysgrifennu cerddi byrion i gefnogi’r tîm cyn eu Gêm Ail-gyfle gyntaf erioed ar ddydd Gwener 25 Hydref yn erbyn Slofacia.
Y Briff!
Rydym ni eisiau i’r cerddi ysbrydoli’r chwaraewyr, a dangos iddyn nhw pa mor ysbrydoledig ydyn nhw i blant Cymru! Rydym hefyd am i’r cerddi ddathlu grym merched a menywod i bêl-droed Cymru. Dangoswn i dîm Cymru ein bod ni’n eu cefnogi!
Y thema yw ‘Amdani Hi’, a dylai dy gerdd fod yn 12 llinell neu lai. Galli ei sgwennu yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu mewn unrhyw iaith galli di ei siarad!
Anfona dy gerdd at pel-droed@llenyddiaethcymru.org
Erbyn dydd Iau 17 Hydref, gyda dy enw cyntaf, oedran ac unai enw’r pentref/tref/dinas lle rwyt ti’n byw neu enw’r ysgol rwyt ti’n mynd iddi.
Eisiau ysbrydoliaeth?
Galli ddysgu mwy am dîm Cenedlaethol Cymru a’r artistiaid eraill sydd wedi eu hysbrydoli yma:
- Gorffennodd Cymru ar frig eu grŵp rhagbrofol a chawson nhw ddim eu curo unwaith! Fe enillon nhw bedair gêm (dwy yn erbyn Croatia a dwy yn erbyn Kosovo) ac fe gawson nhw ddwy gêm gyfartal (y ddwy yn erbyn Wcráin).
- Cafodd Jess Fishlock ymgyrch ragbrofol a dorrodd y record, drwy ennill ei 150fed cap i Gymru a thorri record sgorio goliau Cymru gyda’i 44ain gôl.
- Cafodd gemau’r ymgyrch eu cynnal yn Wrecsam a Llanelli a bydd y gemau ail gyfle yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd.
- Mae gorffen ar frig y grŵp yn golygu y bydd Cymru’n dychwelyd i Gynghrair A yng Nghynghrair Cenhedloedd Merched UEFA ac yn wynebu timoedd mwyaf elît Ewrop.
- Hon oedd ymgyrch ragbrofol gyntaf Cymru ers inni golli allan ar le yng Nghwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn y Swistir.
Diben uwch Tîm Cenedlaethol Merched Cymru yw chwarae dros newid. Chwarae i ysbrydoli. “Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi.” Mae’r tagline hwn wedi’i gynllunio i gydnabod y gorffennol, dathlu’r presennol ac ysbrydoli’r dyfodol.
Mae enillydd cystadleuaeth farddoniaeth 2021 Cymdeithas Bêl-droed Cymru Martha Appleby, 11 oed, ‘wedi creu cerdd ysbrydoledig am ei phrofiad pêl-droed a’i gobeithion ar gyfer dyfodol pêl-droed. Gallwch wylio hwn yma.
Artist rap Cymreig o Grangetown a chefnogwr Cymru yw Juice Menace. Yn flaenorol, cydweithiodd CBDC gyda Juice i ryddhau trac unigryw, ‘FOR HER’ yn y cyfnod cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd Merched FIFA 2023. Gallwch wylio hwn yma.
Y Gêm!
Bydd cefnogwyr Cymru a’r Wal Goch yn chwarae rhan bwysig yng ngemau Cymru, a gobeithiwn y bydd cefnogwyr yn heidio i’r stadiwm ar gyfer rownd gynderfynol y gemau ail gyfle!
Mae ysgolion, clybiau ac unrhyw grwpiau o 10+ o bobl yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y cynllun archebu grŵp. Pris tocynnau archebu grŵp yw £8 i oedolion a £3 i bobl iau. Bydd angen cyflwyno’r ffurflenni archebu grŵp drwy’r post neu drwy e-bost at tickets@faw.cymru erbyn 12pm ddydd Gwener 18 Hydref.
Ffurflenni archebu grŵp: PDF | DOC
Pob lwc Cymru!
Y print man:
- Rydym yn croesawu cerddi gan blant hyd at 16 blwydd oed.
- Bydd cerddi’n cael eu dangos gyda’r wybodaeth ganlynol: Enw Cyntaf, oedran, lleoliad neu ysgol e.e. Tomos, 9, Aberystwyth / Ysgol Gymraeg Aberystwyth
- Mae croeso i chi gyflwyno cerddi cywaith fel dosbarth hefyd. Nodwch enw’r dosbarth a’r ysgol e.e. Cerdd gan Flwyddyn 4 Ysgol Hamadryad, Caerdydd.
- Efallai y bydd Llenyddiaeth Cymru a CBDC yn dymuno cyhoeddi rhai o’r cerddi sydd wedi eu cyflwyno ar eu gwefannau a/neu gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi dros ebost os byddwn ni’n dymuno cyhoeddi eich cerdd.
- Ni allwn warantu y bydd unrhyw gerddi nad ydynt yn ein cyrraedd erbyn dydd Iau 17 Hydref yn cael eu rhannu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru.