
Iau 13 Gor 2023
Llŷr Titus a Caryl Lewis yn cipio Prif Wobrau Llyfr y Flwyddyn 2023
Ar nos Iau 13 Gorffennaf, mewn seremoni fawreddog yn y Tramshed yng Nghaerdydd, datgelwyd mai’r nofel Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn) sydd wedi cipio teitl Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mai Drift gan Caryl Lewis (Doubleday - argaffnod o Transworld, Penguin Random House) sydd yn derbyn y teitl yn y Saesneg.