Dewislen
English
Cysylltwch
Rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu gwybodaeth am Llenyddiaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo’n gwasanaethau a’n gweithgaredd a rhannu effaith ein gwaith. Rydym hefyd yn ymdrechu i ddifyrru’n dilynwyr â chynnwys creadigol ac ysbrydoledig, ac i ddathlu a rhoi llwyfan i weithgareddau llenyddol ar draws Cymru, ac unrhyw wasanaethau neu gyfleoedd a all fod o ddiddordeb i’n cynulleidfaoedd.  

Rydym yn rhoi gwerth i unigoliaeth ac amrywiaeth ac yn falch fod y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig gofod i rannu barn, gwerthoedd, a sgyrsiau cynhyrchiol. Rydym wrth ein bodd yn gweld ein cymuned yn datblygu ac yn rhyngweithio â’i gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r unigolion sy’n ein dilyn yn aml yn rhannu syniadau, cynnig cefnogaeth ac yn llongyfarch, ac yn ysbrydoli’i gilydd. Mae hyn yn ein galluogi i ddathlu’n gwahaniaethau a dysgu oddi wrth ein gilydd. 

Rydym eisiau sicrhau fod ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cynnig awyrgylch diogel i’r rheiny sy’n gysylltiedig â Llenyddiaeth Cymru a rheiny sydd rhyngweithio â’n sianeli. Mae hyn yn cynnwys ein dilynwyr yn ogystal â’r rheiny yr ydym yn gweithio â hwy, cyfranogwyr, ein partneriaid a’n arianwyr, a’n staff a Chyfarwyddwyr. Isod rydym wedi amlinellu ein haddewid i’n cymuned ddigidol, a’n disgwyliadau ninnau. 

 

Ein Haddewid 

  • Cywirdeb: Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein negeseuon yn gywir a’n ffeithiau wedi eu gwirio pan fod hynny’n berthnasol. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn ei gywiro yn brydlon.  
  • Tryloywder: Rydym yn glir ac yn agored am ein gweithgaredd – sut y gwneir penderfyniadau, sut y cânt eu cyflawni a’u hariannu. 
  • Proffesiynoldeb: Rydym yn gwrtais, yn deg, ac yn barchus. 
  • Cyfrifoldeb: Rydym yn dilyn amodau defnyddio’r platfformau cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn eu defnyddio. Byddwn yn ystyriol o breifatrwydd eraill ac yn parchu cyfrinachedd. 
  • Gwerthoedd: Rydym yn arddel ein gwerthoedd drwy’r amser. Byddwn yn rhannu ein cynnwys yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn sicrhau bod ein cymuned yn medru ymwneud â ni yn y naill iaith neu’r llall. 

 

Beth i’w ddisgwyl gan Llenyddiaeth Cymru 

  • Nid ydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gynnal trafodaeth neu ddadl – mae’n achosi heriau amrywiol, ac nid yw’n addas ar gyfer sgyrsiau trylwyr. 
  • Nid ydym yn defnyddio’r platfformau hyn i egluro mewn manylder sut mae ein sefydliad yn gweithio, neu i egluro materion cyfansoddiadol neu bolisi sefydliadol. 
  • Byddwn yn ymateb i negeseuon ble yr ydym wedi ein crybwyll yn uniongyrchol gydag @ pan y byddwn yn teimlo y byddai’n cynulleidfa’n elwa o ymateb. Caiff ein Negeseuon Uniongyrchol eu monitro yn rheolaidd, ond nid ydym yn fel rheol yn blaenoriaethu negeseuon sydd yn ein cyrraedd trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi gwestiwn neu bryder sydd yn gofyn am ymateb penodol, neu os oes angen ymateb sydyn arnoch, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.  
  • Mae’n gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am Llenyddiaeth Cymru, ein gweithgaredd, ein gweledigaeth strategol a sut mae’r sefydliad yn gweithio. Os na allwch chi ddod o hyn i’r hyn yr ydych yn edrych amdano, peidiwch oedi cyn cysylltu.

 

Ein disgwyliadau o’r gymuned cyfryngau cymdeithasol 

Rydym yn croesawu barn ein cynulleidfaoedd, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ond gofynnwn i chi drin eich gilydd, a’r rheiny sydd yn rhedeg cyfrifon Llenyddiaeth Cymru, gyda pharch a charedigrwydd. 

Yn anffodus, o bryd i’w gilydd, ni fydd hyn digwydd, ac mae Llenyddiaeth Cymru – yn ogystal ag unigolion sydd yn gysylltiedig â ni – yn wynebu achlysuron o drolio (trolling) neu ymddygiad yr ydym yn teimlo sydd yn annerbyniol. 

Ni fyddwn yn ymwneud â throliau. Byddwn yn gweithredu pan fod angen i rwystro a chael gwared â’r unigolion sydd yn trolio Llenyddiaeth Cymru ac unigolion cysylltiedig, boed yn iaith casineb, bwlio, a rhannu gwybodaeth anwir neu achosi gofid. 

Nid ydym yn goddef y canlynol (nodwch os gwelwch yn dda nad yw’r rhestr yma’n gyflawn): 

  • Bwlio, aflonyddu, neu drolio 
  • Trais neu iaith casineb 
  • Gwahaniaethu 
  • Cynnwys neu ddeunydd sydd yn ymosodol, anweddus, neu’n droseddol 
  • Datganiad anwir, camarweiniol, a difenwol am unigolyn neu sefydliad 
  • Rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol 
  • Deunydd sy’n torri hawlfraint 
  • Sbam 
  • Negeseuon ailadroddus â’r bwriad o werthu cynnyrch neu wasanaeth 

Cadwn yr hawl i dynnu unrhyw gynnwys sydd yn cynnwys unrhyw un o’r uchod, a byddwn yn adrodd ar unrhyw negeseuon sydd yn torri amodau defnyddio’r platfform sydd wedi eu gosod gan ddarparwyr y platfform. 

Os gwelwch yn dda, sicrhewch eich bod hefyd yn parchu preifatrwydd a chyfrinachedd – peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth pan nad eich lle chi ydydw i’w rannu. 

Os welwch chi unrhyw beth sydd wedi ei rannu gan Llenyddiaeth Cymru neu gan eraill ar ein tudalennau, ein sylwadau neu edefyn, sydd yn eich barn chi yn mynd yn erbyn y canllawiau uchod, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni os ydych yn hapus i wneud hynny. 

 

Ein Cyfrifon Cymdeithasol

Twitter:
@LitWales 
@LlenCymru

Facebook:
www.facebook.com/LlenCymruLitWales

Instagram:
www.instagram.com/llencymru_litwales

Youtube:
www.youtube.com

LinkedIn:
www.linkedin.com/llenyddiaeth-cymru-literature-wales