Eleni, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 yn cael ei chynnal ar nos Iau 17 Gorffennaf yn Theatr y Sherman, Caerdydd, gyda drysau’r agor am 6:00pm am dderbyniad diodydd a’r seremoni ei hun yn cychwyn am 7:00pm.
Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau ein llenorion talentog Cymreig wrth i ni ddatgelu pwy sy’n dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigo la Phlant a Phobl Ifanc, yn ogystal â phwy fydd yn cipio gwobrau Barn y Bobl a theitl Llyfr y Flwyddyn 2025.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol sy’n dathlu llwyddiannau llenorion Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr i gyd, gyda chyfanswm o £14,000 o wobrauar gael i’r awduron llwyddiannus.
Cyhoeddwyd Rhestr Fer eleni mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru ar ddydd Sul 11 Mai, ewch draw i’r dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn i weld yr holl deitlau.
Cofiwch bleidleisio am eich hoff lyfr ar y Rhestrau Byrion ar wefannau Golwg360 a Nation.cymru.
Diolch i’n holl bartneriaid a noddwyr ni eleni am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth.
Cyflwynir y seremoni yn ddwyieithog ac fe fydd cyfieithydd ar y pryd Cymraeg – Saesneg ar gael. Nodwch eich gofynion wrth archebu eich tocyn.