Dewislen
English
Cysylltwch

Ifor ap Glyn

Lleoliad

Gogledd-orllewin

Iaith

CymraegEnglish 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiolPerfformio Barddoniaeth 

Tagiau

Cyn Fardd Cenedlaethol Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ifor ap Glyn oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2016-22. Cafodd ei eni a’i fagu mewn teulu Cymraeg yn Llundain. Mae’n gyflwynydd a chynhyrchydd ar deledu a radio ac wedi ennill nifer o wobrau am ei waith yn y meysydd hyn. Fel bardd, mae wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ac mae’n cyflwyno ei waith yn gyson yng Nghymru ac mewn gwyliau o gwmpas y byd. Mae wedi cyhoeddi chwe chasgliad o gerddi a’r diweddaraf yw Rhwng Dau Olau (2021) Mae hefyd wedi cyhoeddi nofel am ei fagwraeth yn Llundain (Tra Bo Dau) a nifer o lyfrau ffeithiol, gan gynnwys Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Hanes yr Iaith mewn Hanner Can Gair. Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon.