Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Kate Sweeney

Zoë Brigley

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

English 

Ffurf

Barddoniaeth 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Mentor Llenyddiaeth Cymru 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae gan Zoë Brigley dri chasgliad barddoniaeth (gan Bloodaxe): The Secret (2007), Conquest (2012) a Hand & Skull (2019). Mae ei phamffledi diweddar yn cynnwys Aubade After A French Movie (Broken Sleep Books 2020) ac Into Eros (Verve 2021). Ynghyd â Kristian Evans, hi yw golygydd y detholiad 100 Poems to Save the Earth (Seren 2021).

Mae hi hefyd yn ysgrifennu rhyddiaith. Cyhoeddwyd ei chasgliad o draethodau ffeithiol, Notes from A Swing State, gan Parthian yn 2019. Cyd-ysgrifennodd gasgliad o draethodau a llythyrau ar natur a hud gyda Kristian Evans: Otherworlds (Broken Sleep, 2021). Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar gasgliad o straeon byrion, a chyhoeddwyd y cyntaf ohonynt yn Waxwing yn 2020.

Mae hi wedi gweithio ym maes eiriolaeth gwrth-drais a chyd-olygodd y gyfrol academaidd, Feminism, Literature and Rape Narratives (Routledge 2010), yn ogystal â chyhoeddi traethodau ar gynrychioliadau o drais mewn amryw o gyfnodolion adolygu gan gymheiriaid. Mae hi hefyd yn cyflwyno podlediad gwrth-drais: Sinister Myth.

Zoë yw golygydd Poetry Wales ac mae hi’n gweithio ym Mhrifysgol Ohio State.