Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Sue Gurman

Dave Lewis

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

BarddoniaethFfuglenFfeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Dave Lewis yn awdur, bardd a ffotograffydd dosbarth gweithiol ym Mhontypridd. Mae bob amser wedi byw yng Nghymru heblaw am gyfnod byr yn Kenya yn 1993-94. Mae’n ysgrifennu cynnwys ar gyfer llawer o wefannau ac yn dal i’w cynnal. Mae wedi gweithio i BBC Cymru, wedi ysgrifennu colofnau papurau newydd lleol ac wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau a gwefannau llenyddol ledled y byd. Roedd ei stori fer ‘Onions’ yn ail yng Nghystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies yn 2009.

Mae wedi cynhyrchu dros ugain o lyfrau, gan gynnwys trioleg wefreiddiol trosedd yn ne Cymru ac Affrica. Mae ei nofel olaf, The Welsh Man, yn nofel  arall dywyll, di-flewyn ar dafod, drefol, a osodwyd yng Nghymru a’r DU. Cafodd ei stori fer ‘Pachyderm Hiraeth’ ei chynnwys ar restr hir Gwobr V.S. Pritchett y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol 2024.

Yn 2007 sefydlodd y Gystadleuaeth Farddoniaeth Gymreig gyntaf erioed, cystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol gyda’r nod o annog y cyfoeth o dalent ysgrifennu creadigol sy’n bodoli yng Nghymru a thu hwnt. Mae hefyd yn rhedeg Publish & Print, cwmni cyhoeddi llyfrau sy’n chwilio am awduron da sydd wedi cael eu hanwybyddu gan brif ffrwd y diwydiant cyhoeddi.