Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: c. Laura Pink Photography

Iestyn Edwards

Lleoliad

Y tu allan i Gymru

Iaith

English 

Ffurf

Ffeithiol 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Iestyn Edwards yn gofiannydd, dramodydd a bardd sydd wedi ennill Gwobr Olivier, ac ar hyn o bryd yn byw yn Saffron Walden. Mae’n cael ei gynrychioli gan Lisa Eveleigh yn Asiantaeth Richard Becklow.

Aeth ei ddrama gyntaf, Along Came Bill, ar daith yn genedlaethol ac ennill Best Of… yng Ngŵyl Ryngwladol Caerfaddon. Cyhoeddwyd My Tutu Went AWOL, ei gofiant o ddifyru milwyr Prydeinig yn Irac ac Affganistan (yn y tutu hwnnw) gan Unbound yn 2017, yna ar Audible wedi’i adrodd gan yr awdur yn 2018. Cyrhaeddodd rif un yn Siart Bywgraffiadur Amazon Hoyw a Lesbiaidd, uwchlaw Sue Perkins a Graham Norton.

Mae Iestyn wedi cael ei gyfweld am ei brofiadau mewn ardaloedd lle bu rhyfeloedd ar Midweek Radio 4 (ddwywaith), Loose Ends, Woman’s Hour a Saturday Live. Roedd hefyd yn rhan o Rough Guide to Choreography ar Channel 4.
‘Hynod o ddoniol!’ Daily Mail.
‘Eithriadol o ddoniol – ac yn ddiddorol tu hwnt. Cymysgedd hudolus ac annhebygol o gofiant showbiz, adrodd am ryfel a chomedi bromantig *****.’ Piers Torday
‘Dim ond y dwyfol unigryw Iestyn Edwards allai fod mewn ardal rhyfel mewn tutu ac ysgrifennu amdano mor berffaith. Diddorol, dirdynnol a hynod ddoniol.’ Miranda Hart.

Ar hyn o bryd mae’n cyflwyno ei ail ddarn o waith ffeithiol i asiantau a chyhoeddwyr: gyda’r teitl dros dro: The Devil Made Your Todger: cyfres  o gyfweliadau cysylltiedig am sut mae pobl yn dysgu (neu ddim yn dysgu) ffeithiau bywyd. Bydd ei ail ddrama, Death Round the Bend, yn dechrau gweithdai datblygu ddechrau’r hydref. Mae hefyd yn arwain sioeau west end Llundain a nosweithiau cabaret, a , yn ganwr opera a digrifwr stand up – ac mae ar daith gyda sioe canu, dawnsio a phob dim sydd yn seiliedig ar ei gyfrol  My Tutu Went AWOL. Ar hyn o bryd mae’r sioe hon yn boblogaidd iawn mewn gwyliau llenyddol fel Cheltenham, Olympia, Caergrawnt, et al; Clybiau Probus a Rotari, WIs, clybiau ciniawa, ysgolion, colegau a’r U3a.
‘Mae’n rhaid bod awr a phedwar munud ar hugain o ‘geisiadau’ noddwyr corfforaethol fod yn rhyw fath o record, does bosib?’ Madeleine Toy, Cheltenham Festival Admin.
‘Digamsyniol…grym natur… roedd y straeon wedi fy ngoglais, a’r LLAIS hwnnw!’ U3a Cas-gwent.
‘Am berfformiad goleuol – doedd gen i ddim syniad y byddwn i mor falch o ddysgu’r hyn sydd gen i. Mewn cyflwyniad hudolus – heb sôn am fod yn eithriadol o ddoniol. Dwi’n clywed mai ni oedd ei Probus cyntaf? Boed iddo gael llawer mwy o archebion. A llongyfarchiadau ar y llais hwnnw!’ Cadeirydd, Cangen Bury.