Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Joanna Davies

Joanna Davies

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

FfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Daw Joanna o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac astudiodd Ysgrifennu Creadigol gyda Mihangel Morgan a’r Athro John Rowlands ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o nofelau dwyieithog gan gynnwys y llyfrau i oedolion ifanc poblogaidd, ‘Ffreshars’ (Gomer), a ‘Freshers’, (Honno). Mae hi hefyd yn awdur y gyfres llyfrau a lluniau dwyieithog poblogaidd i blant, y Bwci Bos. (Atebol). ‘Sawl Bwci Bo?’ oedd cyfrol ‘Dechrau Da’ BookTrust Cymru yn 2022.
Dyma’r llyfr Cymraeg gwreiddiol cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer y cynllun hwn. Cafodd dros 40,000 o gopïau eu dosbarthu i blant bach ledled Cymru.

‘Ble wyt ti Bwci Bo?/Where are you, Bwci Bo?’, y drydedd gyfrol yn y gyfres, oedd Llyfr y Mis Cyngor Llyfrau Cymru a Booktrust Cymru ar gyfer Rhagfyr 2023. Mae hi’n briod â Steven Goldstone sy’n darlunio ac yn dylunio’r cyfres lyfrau Bwci Bos ac yn byw yn Llanilltud Fawr.