Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Daniel McGowan

Daniel McGowan

Lleoliad

De-ddwyrain

Iaith

English 

Ffurf

Ffuglen 

Tagiau

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Mae Dan yn awdur, cyfarwyddwr, gwneuthurwr ffilmiau, actor a cherddor, er nad o reidrwydd ar yr un pryd. Mae ei ryddiaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau fel Litro, mae ei ffilmiau byrion arobryn wedi’u dangos mewn gwyliau rhyngwladol ac mae wedi teithio’r byd mewn amryw o sioeau o fri mawreddog, ac mae wedi helpu i ysgrifennu a chreu rhai ohonynt.

Ar hyn o bryd mae’n ceisio dod o hyd i gyhoeddwr ar gyfer ei nofel gyntaf, Wolves (stori aml-haen sy’n seiliedig ar yr argyfwng hinsawdd), wrth ddechrau datblygu ei ail nofel sydd wedi’i gosod ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei stori ar gyfer darllenwyr iau, a ddarluniwyd ganddo hefyd – Strange Head Fred – wedi’i chyhoeddi gan Saron.

Tan yn ddiweddar, Dan oedd Pennaeth Ffilm Hijinx, lle bu’n gweithio am 11.5 mlynedd. Mae’n angerddol am gynhwysiant, yr amgylchedd a hufen iâ. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, ei ferch a’i gi.