Dewislen
English
Cysylltwch
Credit: Sioned Wyn Roberts

Sioned Wyn Roberts

Lleoliad

Gogledd-ddwyrain

Iaith

Cymraeg 

Ffurf

FfuglenPlant a Phobl Ifanc 

Tagiau

Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 

Cysylltu â'r ysgrifennwr

Bywgraffiad Cymraeg

Ers dechrau ysgrifennu yn 2020 mae Sioned wedi cyhoeddi wyth cyfrol i blant ac oedolion. Cyhoeddwyd cyfres stori-a-llun Ffwlbart Ffred gan Atebol yn 2020 a 2021, a Ni a Nhw yn 2024. Sioned yw awdures cyfres Gwag y Nos, Wyneb yn Wyneb ac Y Garthen, trioleg o nofelau antur Fictorianaidd i blant 10-13 oed (Atebol 2021-2025). Eleni cyhoeddwyd Dicw Dwm-Bo nofel gomedi hawdd-ei-darllen i blant cynradd gan Y Lolfa.
Cyhoeddwyd Madws, nofel gyntaf Sioned i oedolion, gan Gwasg y Bwthyn y llynedd. Cafodd Madws enwebiad categori ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2025. Enillodd Gwag y Nos wobr Tir na n-Og ac enwebiad Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Bu Wyneb yn Wyneb ar restr fer Tir na n-Og yn 2024, a Ni a Nhw ar restr fer Tir na n-Og 2025.

Ar hyn o bryd, mae Sioned yn ysgrifennu nofel newydd i oedolion i’w chyhoeddi gan Gwasg y Bwthyn haf 2026.
Yn ystod ei gyrfa mae Sioned wedi bod yn gomisiynydd cynnwys plant a phobol ifanc S4C ac yn uwch-gynhyrchydd yn y BBC. Cyn ymuno â’r cyfryngau bu’n athrawes hanes yng Nghymru a thramor. Yn wreiddiol o Bwllheli, mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd efo ei gŵr a dau o blant.