Dewislen
English
Cysylltwch

Er mwyn dathlu Calan Gaeaf eleni, cynhaliwyd sgwad sgwennu yn ystod hanner tymor yr Hydref yng Nghwrt Insole, Caerdydd. Bardd Plant Cymru 2019-21, Gruffudd Owen, oedd yn cynnal y gweithdy, a drefnwyd ar y cyd rhwng Menter Caerdydd a Llenyddiaeth Cymru.

Daeth 14 o blant ynghŷd i rannu syniadau gwallgo, trafod eu hofnau mwyaf, a chreu straeon dychrynllyd.

Ar ddiwedd y sesiwn, cyfansoddwyd cerdd arbennig yn disgrifio cymeriad Calan Gaeaf: