Dewislen
English
Cysylltwch
Durre Shahwar                                                                                                                             Nasia Sarwar-Skuse

 

Durre Shahwar

Mae Durre Shahwar yn awdur ac yn Gyd-olygydd “Gathering, an essay anthology on nature, climate, the landscape by women of colour” (i’w gyhoeddi yn 2024 gan 404 Ink). Mae Durre yn ymgeisydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste. Mae’n dysgu Ysgrifennu Creadigol ac yn Gymrawd Cyswllt Addysg Uwch. Durre yw Awdur Preswyl Cylchgrawn Wasafiri ac mae hefyd yn Gymrawd Cymru’r Dyfodol, yn edrych ar gyfiawnder hinsawdd trwy gelf gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae gwaith Durre yn gorgyffwrdd â’r ffiniau rhwng gwaith ffeithiol, ysgrif, hunan-ffug, stori fer a barddoniaeth a gwaith gweledol, ac mae wedi’i gyhoeddi’n fwyaf amlwg yng Wasafiri Magazine, Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Welsh (Plural) (Repeater Books), Homes for Heroes 100: Council Estate Memories (Bristol Festival of Ideas), Artes Mundi, Sister-hood Magazine a Visual Verse. Perfformiwyd ei drama fer On My Terms yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Yn 2017, cyd-sefydlodd Where I’m Coming From, grŵp meic agored sydd wedi’i anelu at awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. 

Gwefan: DURRE SHAHWAR

 

Nasia Sarwar-Skuse

Mae Nasia Sarwar-Skuse yn awdur ac yn ymgeisydd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Gyd-olygydd “Gathering, an essay anthology on nature, climate, the landscape by women of colour” (i’w gyhoeddi yn 2024 gan 404 Ink). Mae hi wedi bod yn gweithio fel hwylusydd ysgrifennu creadigol ers pedair blynedd ac mae’n angerddol am bresenoldeb dilysrwydd mewn llenyddiaeth gan leisiau ethnig a’i chroestoriadau â gwladychiaeth, alltud, rhywedd a chof. Yn ddiweddar comisiynwyd Nasia gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru i gyd-arwain prosiect sy’n archwilio effaith natur a’r amgylchedd ar lesiant trwy greadigrwydd. Mae ei hysgrifennu wedi ymddangos mewn amrywiol gyhoeddiadau. 

Twitter: @NSarwarSkuse