Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) sy’n darparu cyllid craidd Llenyddiaeth Cymru ac mae CCC yn credu bod y celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl. Maent yn troi’r genhadaeth hon yn weithred trwy ariannu a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Llywodraeth Cymru yw prif noddwr CCC ac maent hefyd yn dosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol a chodi arian ychwanegol lle gallant o amryw ffynhonnell sector cyhoeddus a phreifat.
Gwefan: http://www.celf.cymru/
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Llywodraeth Cymru yw prif noddwr Cyngor Celfyddydau Cymru.
Gwefan:: https://gov.wales/?lang=en
Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa
Mae Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa yn noddi Gwobr Roland Mathias, a sefydlwyd er clod i’r bardd a'r awdur Roland Mathias, a chwaraeodd ran bwysig mewn sefydlu ysgrifennu Saesneg o Gymru fel ffurf lenyddol nodedig. Bu farw yn 2007.
Daeth Gwobr Roland Mathias yn rhan o Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2012. Bydd y wobr adnabyddus, a ddyfarnwyd ddwywaith y flwyddyn ar gyfer ysgrifennu Saesneg o Gymru ym meysydd barddoniaeth, straeon byrion, beirniadaeth lenyddol a hanes Cymru, yn cael ei adnabod fel Gwobr Barddoniaeth Saesneg o fewn Gwobr Llyfr y Flwyddyn.
Gwefan: http://www.brecknocksociety.co.uk/
Wales Arts Review
Mae Wales Arts Review yn garedig iawn yn cynnal y People’s Choice Award. Mae Wales Arts Review yn gartref i ysgrifennu beirniadol a sylw celfyddydol - lle y gall beirniaid celfyddydol brwdfrydig a gwybodus, o Gymru a thu hwnt, fynegi eu hunain.
Gwefan: http://www.walesartsreview.org/
Golwg360
Mae Golwg360 yn garedig iawn yn cynnal pleidlais Gwobr Barn y Bobl. Lansiwyd Golwg360 yn 2009 fel gwefan sy'n cynnig newyddion Cymraeg a rhyngwladol yn yr iaith Gymraeg. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru.
Gwefan: https://golwg360.cymru/
Cyngor Llyfrau Cymru
Mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
For more information, please visit the website: http://www.cllc.org.uk/
Cwmni Da
Ers iddo gael ei sefydlu yn 1997, mae Cwmni Da wedi datblygu yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Cymru. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon.
Gwefan: http://www.cwmnida.cymru/
The Bookseller
Bu'r Bookseller yn gylchgrawn busnes y diwydiant llyfrau ers 1858; gan ymgorffori Bent’s Literary Advertiser, a sefydlwyd ym 1802. Mae’n un o gylchgronau hynaf y DU. Cyhoeddodd The Bookseller y newyddion am restr fer Llyfr y Flwyddyn fel rhan o’u Country Focus: Wales Edition.
Gwefan: https://www.thebookseller.com/