Derbynwyr Cynllun Mentora 2020
Mae 3 awdur newydd wedi ennill lle ar y Cynllun Mentora sef Beth Celyn, Abeer Ameer a Seran Dolma. Fe fydd y 6 awdur sy’n derbyn yr ysgoloriaethau sydd wedi eu clustnodi yn ymuno â nhw (yr Ysgoloriaethau Awdur Newydd a’r Ysgoloriaeth i awdur o dan 25). Bydd y Cynllun Mentora yn dechrau gyda chwrs pwrpasol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd far 2-7 Mawrth 2020, ac fe geir sesiynau mentora unigol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio â chynrychiolwyr ar draws y diwydiant cyhoeddi.
Yn ogystal, dyfarnwyd lle i Susan Walton ar y Cynllun Mentora ar gyfer cyfieithu llenyddol, i weithio ar ei chyfieithiad Saesneg o nofel Gymraeg. Mae’r dyfarniad, oedd yn gynllun peilot ar gyfer partneriaeth newydd rhwng Llenyddiaeth Cymru a’r National Centre for Writing yn Norwich, gyda chefnogaeth gan Gyfnewidfa Lên Cymru, yn cynnwys cyfle i Susan fynychu penwythnos preswyl ar gyfer egin gyfieithwyr yn y National Centre for Writing yn Norwich ar 17-19 Ionawr 2020. Bydd cyfieithydd Pwyleg i Saesneg Marek Maj o griw egin gyfieithwyr y National Centre for Writing yn ymuno â chwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fis Mawrth.
Mae rôl y cyfieithydd yn hollbwysig er mwyn hyrwyddo deialog traws-ddiwylliannol, a gobeithir bydd y cyfle hyn yn cynorthwyo awduron Cymru i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal â chyfrannu at agwedd ryngwladol y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Bydd y bartneriaeth yma hefyd yn galluogi cyfnewid rhyngwladol i awduron.
Os oes gennych ymholiadau ynglyn â’r Cynllun Mentora, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Cefnogir Ysgoloriaethau i Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru gan Y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
