Her 100 Cerdd #32: Dwyieithrwydd Alys Jade Lovell
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Dwyieithrwydd Alys Jade Lovell
Cerdd i groesawu Alys Jade Lovell i’r byd fel Cymraes ddwyieithog
O’r cychwyn, clywodd y ferch fach hon
ddwy iaith yn ei meddwl bach hi.
Troellant fan hyn fan ‘co fel teganau bychain
tu ôl i’r wên lydan, yn iapan eu synau mewn iaith
y mae hi’n ei chanfod o’r newydd pob dydd.
Dau air a dwy droed o flaen ei gilydd
pan fydd hi’n codi ac yn mentro
allan i’r byd mawr cyn bo hir,
dwy iaith sydd i’w dyfodol, dwy iaith sydd i’w gallu hi
wrth iddynt lifo o’i cheg yn dribls o boer
a mwmblan a chwerthin wrth i’r tlysau
o eiriau ceisio cropian rhwng ei gwefusau
yn gytseiniaid a llafariaid gwyllt.
– Matthew Tucker, 7.54pm