Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Lansio rhaglen 2023

Cyhoeddwyd Maw 18 Ebr 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Lansio rhaglen 2023
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi lansiad trydedd rownd ein rhaglen ddatblygu ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol, y tro hwn gyda ffocws arbennig ar ysgrifennu i blant a phobl ifanc.
Rhaglen 2023/24

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd datblygu i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi. Dyma’r drydedd waith i’r rhaglen gael ei chynnal, a’r tro cyntaf i’r thema o lenyddiaeth plant a phobl ifanc gael ei gosod fel canolbwynt.

Mae’r rhaglen 12 mis, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i 14 o awduron o gefndiroedd a dangynrychiolir ar hyn o bryd yn niwylliant llenyddol Cymru ac sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Dewiswyd yr 14 gan Banel asesu annibynnol, yn dilyn galwad agored yn ystod hydref 2022. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio mewn ymgynghoriad â chymunedau ac awduron o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae’n cymryd i ystyriaeth llwyddiannau a phwyntiau dysgu’r o’r ddwy rownd flaenorol.

I glywed rhagor am brofiadau’r ddwy garfan flaenorol, ewch draw i’r adran ‘Gair o Brofiad’ ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gyfrifol am weinyddu’r rhaglen a byddwn yn cefnogi’r criw i ddatblygu eu gwaith a meithrin eu talent drwy gynnig gwobr ariannol hyd at £3,300 i bob awdur llwyddiannus a thrwy hwyluso sesiynau mentora un-i-un gydag awdur uchel eu parch o’u dewis. Elfen allweddol o’r rhaglen fydd gwneud yr agweddau galwedigaethol o ysgrifennu creadigol, yn ogystal â’r broses gyhoeddi, yn fwy hygyrch. I’r perwyl hwn, byddwn yn trefnu 8 gweithdy arlein a darparu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ar ffurf cyfleoedd i rwydweithio a mynychu gwyliau a digwyddiadau llenyddol. Bydd y gweithdai hefyd yn galluogi i’r awduron i ddatblygu eu sgiliau fel hwyluswyr gweithdai ysgol. Bydd dosbarthiadau meistr yng ngofal awduron a thiwtoriaid profiadol, gyda dau ohonynt yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, hefyd yn elfennau hanfodol o’r cynllun.

Yn ystod y flwyddyn, bydd y garfan yn clywed gan awduron arobryn fel Patrice Lawrence, Caryl Lewis, Lee Newbery, Alex Wharton a Sue Cheung. Mae arbenigwyr ar lenyddiaeth plant a phobl ifanc hefyd wedi’u gwahodd i siarad â’r awduron, megis yr Athro Charlotte Williams, Dr. Siwan Rosser, Dr. Ann Alston, Darren Chetty a chynrychiolwyr o Book Trust Cymru, yn ogystal â chyhoeddwyr o Gymru a’r wasg gynhwysol sydd wedi ennill sawl gwobr, Knights Of. Byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant ar sut i fynd ati i greu brand awdur, creu gyrfa fel artist llawrydd, a chynnal gweithdai creadigol cymunedol.

Bydd detholiad o weithdai yn ystod y flwyddyn yn agored i’r cyhoedd er mwyn cynnig hyfforddiant a chyngor rhad ac am ddim i ystod eang o egin awduron ledled Cymru. Bydd aelodau o ddwy garfan flaenorol Cynrychioli Cymru hefyd yn cael eu gwahodd i ambell sesiwn, fel cyfranogwyr ac fel siaradwyr gwadd, er mwyn sicrhau bod cysylltiadau rhwng y ddau grŵp yn cael eu ffurfio ac er mwyn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd parhaus i’n hawduron.

Am rhagor o wybodaeth am y detholiad o sesiynau rhad ac am ddim sydd ar gael, ewch i dudalen gwefan Cynrychioli Cymru.

Carfan 2023/24

O’r Wyddgrug i Bontypridd, mae carfan eleni wedi’u lleoli ledled Cymru, ac yn ysgrifennu mewn sawl iaith megis Cymraeg, Saesneg a Bangla. Maent hefyd yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres a ffurfiau megis ffantasi, arswyd, barddoniaeth, a nofelau graffig ac ar gyfer cynulleidfaoedd rhwng 4 a 18 oed. Mae’r 14 ohonyn nhw’n cynnig ystod eang o safbwyntiau, arddulliau a dulliau creadigol, ond maent i gyd yn rhannu’r un brwdfrydedd dros syniadau gwreiddiol ac angerdd am ysbrydoli cynulleidfaoedd ifanc. Dros y 12 mis nesaf, byddant yn ceisio cyflawni eu nodau unigol sy’n amrywio o gwblhau llawysgrif, i ddatblygu gweithdai ysgol, i fachu asiant llenyddol a gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi.

Bydd pedwar o’r awduron yn datblygu gwaith creadigol yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn. Bydd yr awduron eraill yn derbyn y cynnig i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg ochr yn ochr â’r rhaglen graidd o weithdai a digwyddiadau, diolch i’n partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi i ni dreialu cwrs Cymraeg llwyddiannus gyda charfan 2022/23.

Rhan annatod o’r rhaglen yw’r cysylltiadau a ffurfir o fewn y garfan. Bydd yr awduron yn dysgu oddi wrth ei gilydd yn ystod y flwyddyn wrth iddynt arbrofi gyda genres newydd a rhannu gwaith ac adborth yn rheolaidd gyda’i gilydd. Bydd y 14 awdur yn cyfarfod wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ar gyfer eu dosbarth meistr preswyl cyntaf a gynhelir yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ddiweddarach yr wythnos hon ar 22 Ebrill, 2023.

Mae’r rhaglen wedi ei chreu ar sail anghenion a diddordebau y garfan ac mi fydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i groesawu adborth ac ystyried syniadau y cyfranogwyr. Yn dilyn y rhaglen 12 mis, bydd cefnogaeth parhaus yn cael ei ddarparu i’r garfan i sicrhau bod ganddynt fynediad i gyngor ac adnoddau hanfodol i gyflawni eu nodau.

Y dyfodol

Bydd yr alwad agored ar gyfer pedwaredd rownd Cynrychioli Cymru yn cael ei lansio yn ystod haf 2023, y tro hwn yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu i oedolion. O hyn allan, bydd y rhaglen yn canolbwyntio bob yn ail rhwng llenyddiaeth plant ac oedolion gan roi sylw dyledus i’r ddwy ffurf.

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen, a bywgraffiad yr holl awduron, ar gael ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.

Uncategorized @cy