Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Proses Ymgeisio Awduron Wrth eu Gwaith Nawr ar Agor!

Cyhoeddwyd Iau 25 Ion 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Proses Ymgeisio Awduron Wrth eu Gwaith Nawr ar Agor!
Llun o garfan Awduron wrth eu Gwaith 2023.
Mae Gŵyl y Gelli wedi lansio Awduron wrth eu Gwaith 2024, rhaglen datblygu creadigol ar gyfer talent newydd o Gymru yng Ngŵyl y Gelli (23 Mai–2 Mehefin), mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, a thrwy gefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Awduron wrth eu Gwaith yn cynnig wythnos lawn o gyfleoedd datblygu creadigol, ac yn caniatáu i’r awduron sydd yn cael eu dewis gymryd rhan ym mhrif ddigwyddiadau’r Ŵyl, mynychu dosbarthiadau meistr a gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantau ac, yn hollbwysig, gydag artistiaid rhyngwladol sefydledig.

Mae’r rhaglen yn agored i awduron sydd yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg ar draws gwahanol genres – ffuglen, ffeithiol, ffeithiol-greadigol a barddoniaeth – ac mae’r broses ymgeisio bellach ar agor. Gallwch ddarganfod rhagor ar wefan Gŵyl y Gelli.

Prosiect Gŵyl y Gelli yw Awduron wrth eu Gwaith, sydd yn cael ei gefnogi gan Llenyddiaeth Cymru – y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth – a’i redeg gan yr awdur Tiffany Murray, y mae ei llyfr diweddaraf, My Family and Other Rock Stars, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai.

Me’r cyfranogwyr sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn wedi ennill nifer o wobrau ac wedi cyrraedd nifer o restrau byrion, gan gynnwys Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Llyfr y Flwyddyn Cymru, Gwobr Ysgrifennu Newydd Cymru, Gwobr Ysgrifennu Newydd Wasafiri, Gwobr Cyfryngau Cymru, Gwobr Rising Stars Cymru, a Gwobr Cymru Greadigol.

Sefydlwyd Awduron wrth eu Gwaith yn 2016, i feithrin talent ysgrifennu Cymru yn y ddwy iaith, ond cafodd y rhaglen ei stopio dros dro yn ystod Covid-19. Bydd 2024 yn nodi ei chweched flwyddyn.

Dywedodd Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch: “Rydym yn falch iawn o lansio ein galwad ar gyfer ein rhaglen Awduron wrth eu Gwaith 2024, a chynnig rhaglen o weithgareddau i gwrdd â’r heriau sy’n wynebu pobl greadigol Cymru heddiw. Wrth i’n cyfranogwyr o’r gorffennol barhau i lunio’r dirwedd ddiwylliannol yng Nghymru a thu hwnt, rydym yn edrych ymlaen at ddod o hyd i awduron
nesaf y prosiect gyda Llenyddiaeth Cymru.”

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Rydym wrth ein boddau o gael parhau ein perthynas â Gŵyl y Gelli i ddarparu rhaglen arall o Awduron wrth eu Gwaith. Yn digwydd yng ngŵyl llenyddol enwocaf y byd, mae’r rhaglen ddatblygu awduron hon yn ymgynnull yr awduron, golygyddion ac asiantiaid gorau un i weithio â charfan gyffrous o dalent Cymreig newydd i rannu gwybodaeth, i greu cysylltiadau ac i annog creadigrwydd.”

Dywedodd y cyn-gyfranogwr Taz Rahman, awdur East of the Sun West of the Moon: “Yr ochr ysgrifennu ydy’r rhan fwyaf unig – fel rhywun sydd yn rhedeg pellteroedd hir, sydd yn brwydro yn erbyn yr awel gryfaf. Mae cyfleoedd unigryw fel rhaglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, yn cymysgu gweithgareddau creadigol gyda gwybodaeth am y byd ysgrifennu, ac yn caniatáu i’r awdur deithio ymhellach mewn ffyrdd sydd heb eu dychmygu eto.”

 

Dywedodd y cyn-gyfranogwr Emma Smith, awdur And I Hear Dragons: “Roedd bod yn rhan o raglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli y llynedd yn hudol ac yn drawsnewidiol. Ar ôl ymgolli am naw diwrnod mewn gweithdai a digwyddiadau (a heulwen!), a dysgu gan awduron blaenllaw fel Douglas Stuart, Max Porter, a Kit de Waal, fe wnes i adael yn awdur gwahanol: gyda mwy o ffocws, yn barod i herio fy hun yn greadigol, ac efallai yn bwysicaf oll, yn fwy cysylltiedig. Dyna’n union beth oedd ei angen arnaf ar ôl y pandemig. Ers hynny, rwyf wedi cwblhau fy ail nofel, a bydd fy ngherdd gyntaf i blant – And I Hear Dragons – yn cael ei chyhoeddi gan Firefly Press -– casgliad a olygwyd gan Fardd Cenedlaethol Cymru Hanan Issa, a fydd yn cyrraedd y silffoedd yn ddiweddarach eleni. Peidiwch ag oedi cyn gwneud cais; Ni allaf argymell y rhaglen ddigon ”

 

Dywedodd y cyn-gyfranogwr Sophie Buchaillard, awdur Assimilation: “Roedd Awduron wrth eu Gwaith yn gyfle anhygoel i ddysgu gan rai o enwau gorau’r sector, mynychu sgyrsiau diddorol, arddangos fy ngwaith ysgrifennu yng Ngŵyl y Gelli, a datblygu cymuned gefnogol o ffrindiau ac awduron eraill.”

Uncategorized @cy