Her 100 Cerdd #54: Clymau Celtaidd
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Clymau Celtaidd
Mewn ymateb i gais Marcas Mac an T am gerdd yn sôn am y cyswllt rhwng Cymru a’r Alban
Mae clymau Celtaidd yn uno
ein hanes a’n hawydd i ddihuno
o drwmgwsg yr hen genedlaethau
a anghofiodd gyffro ein gwreiddiau.
Felly deffrwn a chleciwn ein cwrw,
a thrwy gân fe godwn dwrw!
A dawnsiwn yma tan y wawr
gan rannu’n tafodau drudfawr.
– Beth Celyn, 0:41 am