Cywydd Croeso Eisteddfod T gan Bardd Plant Cymru
Mae Eisteddfod T yn cael ei chynnal yn ystod wythnos 25-29 Mai. Hyd yn hyn, mae 4,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda rhagor o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos.
Yn ogystal ag ysgrifennu’r cywydd, mae Gruff hefyd yn beirniadu dwy gystadleuaeth yn yr Eisteddfod – cystadleuaeth perfformio cerdd am hunan-ynysu, a pherfformio idiom byw.
Am yr holl wybodaeth am Eisteddfod T, ewch i www.s4c.cymru/urdd
Dyma’r cywydd:
Eisteddfod T
I filoedd di-bafiliwn
yn eu tai mae’r dathliad hwn
yn angor. Mae wir angen
‘Steddfod T i godi gwên.
I hunan-ffilmwyr annwyl
Mistar Urdd mae stôr o hwyl!
Gorau arf yw ‘steddfod sgrîns
heb wair na ffair na fferins.
Gŵyl di-gae, a gwlad y gân
yn rhith-uno wrth hunan
ynysu. Cawn rannu’r hwyl
o brofi’r seibr-brifwyl!
Os yw’r alaw mewn cawell,
moria’r gân rhwng muriau’r gell.
Ar wahân ac eto’n rhydd,
down i’n gŵyl gyda’n gilydd.
Mae mwy o werth i chwerthin
cant o blant mewn dyddiau blin.
Mae angen grym eu hangerdd.
Gall llwyfan a chân a cherdd
roi hyder i ni gredu
y daw oes pob cyfnod du
i ben, ac felly ‘leni
yn ein tai cawn ‘Steddfod T.