Cyfle i Feirdd Ifanc (7 – 11 mlwydd oed)

Mae’r bardd Alex Wharton yn galw ar blant 7 – 11 mlwydd oed i ymuno yn yr hwyl wrth iddo baratoi i lansio ei gyfrol Daydreams a Jellybeans, wedi’i ddarlunio gan y darlunydd plant talentog Katy Riddell.
Mae gan ddisgyblion ysgolion cynradd tan 21 Medi i fynd ati i ysgrifennu cerdd (hyd at 12 llinell) am unrhyw fath o freuddwyd dydd. Bydd un enillydd lwcus yn cael eu dewis i gynnwys eu cerdd yng nghefn llyfr newydd Alex, sy’n cael ei gyhoeddi ar 28 Ionawr 2021.
Neges Alex Wharton i blant yw: “Dewch i gael hwyl gyda’ch ysgrifennu, byddwch yn agored i syniadau, yn agored i freuddwydion – a bydd eich cerdd yn siŵr o ddod o hyd i chi.”
O freuddwydion bach neu fawr i fferins o bob lliw a llun, mae cerddi Alex, a ysgrifennwyd ar gyfer plant oed ysgol gynradd, yn ddoniol ac yn feddylgar, ac yn anelu at danio cynefindra a chynhwysiant. Bydd darluniau cywrain Katy Riddell yn canolbwyntio ar themau hwyliog a breuddwydiol y cerddi a’u cyswllt â’r byd o’n cwmpas.
Meddai Katy Riddell: “Rwy’n gyffrous iawn fy mod yn gweithio gyda thîm mor hyfryd. Mae cerddi Alex mor hyfryd o sylwgar yn ogystal â dychmygus a gobeithio y gallaf ddod â’i eiriau’n fyw gyda fy lluniau.”
Meddai Penny Thomas, Cyhoeddwr Firefly Press: “Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio gyda Katy Riddell; mae ei lluniau hyfryd, llawen yn cyd-fynd yn berffaith â’r cerddi hyn. ”
Am ragor o wybodaeth, ac i gystadlu, ewch i: https://fireflypress.co.uk/blog/budding-poets/