Dewislen
English
Cysylltwch

Blog: Connor Allen yn adlewyrchu ar ei gyfnod fel Children’s Laureate Wales

Cyhoeddwyd Gwe 8 Medi 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Blog: Connor Allen yn adlewyrchu ar ei gyfnod fel Children’s Laureate Wales
Mae cyfnod Connor Allen, Children’s Laureate Wales 2021-2023, newydd ddirwyn i ben ym mis Awst 2023 ar ôl dwy flynedd prysur yn ysbrydoli plant a phobl ifanc ledled Cymru. Dyma gyfieithiad o flog ganddo yn adlewyrchu ar ei gyfnod yn y rôl.

Lle i ddechrau…?

Pan ges i’r alwad ffôn ddwy flynedd yn ôl yn cynnig y rôl Children’s Laureate Wales i mi, nes i fyth ddychmygu y byddai’r daith a’r antur hon wedi fy nhywys i i’r man mae e wedi.

I fod yn gwbl onest – doeddwn i ddim yn gwybod maint a phwysau yr hyn oedd bod yn laureate yn ei olygu. Roeddwn i fisoedd mewn i’r rôl pan wnaeth fy Nain ddweud wrtha i bod Maya Angelou yn laureate. Roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n jocian a dim ond pan es i ar y We nes i ddarganfod ei bod hi’n dweud y gwir a bod Maya Angelou wir yn laureate, ynghyd â ffefryn arall i mi, Malorie Blackman, ac yn fwy diweddar, Caleb Femi. Roedd rhestr hir o awduron dawnus a blaengar yn laureates ac roeddwn i bellach yn rhan o’r clwb hwn. Dyna pryd wnes i sylweddoli, fel mab hil gymysg i fam sengl ar ystâd cyngor yng Nghasnewydd – mae’r plentyn hwn wedi gwneud yn dda.

Ffefryn i mi ac mae’n debyg un o fy nhri hoff archarwr yw Spider-Man. Hyd yn oed yn tyfu i fyny roedd e bob amser yn un o’r ffigurau roeddwn i’n chwarae gyda fwyaf ac yn y sioeau teledu roeddwn yn eu gwylio. (Mae’r gyfres deledu Spider-Man o’r 90au gyda’r unawd gitâr yn y credydau agoriadol yn anhygoel, mae’n rhaid i mi ddweud.) Yn stori Spider-Man daw’r llinell eiconig, “Gyda phŵer mawr daw cyfrifoldeb mawr” ac roeddwn i wir yn teimlo fy hun yn wynebu’r dyfyniad hwn yn ystod dyddiau cynnar fy nghyfnod ac yn wirioneddol cwestiynu beth ddylwn i ei wneud gyda’r safle a’r pŵer hwn roeddwn i nawr yn berchen arno.

Fy theori yw bod pob person yn wyrth ar y blaned hon. Wyth biliwn o bobl ond dim ond un ohonoch CHI. Gall neb deimlo’r emosiwn yn y ffordd rydych chi’n ei wneud na phrosesu’r byd o’ch cwmpas fel rydych chi’n ei wneud oherwydd dim ond un ohonoch CHI sydd. Gall fod 20,000 o bobl sy’n rhannu’r un enw ond dim ond un CHI. Sut galla i rymuso plant a phobl ifanc i ddeall eu bod yn wyrthiau, a bod eu harchbwer yn gorwedd yn y ffaith nad oes unrhywun ar y blaned, yn y bydysawd cyfan fel nhw? O’r man yna mae nhw angen ysgrifennu a mynegi ohono. Grymuso yw’r arf creadigol mwyaf sydd gennym a phe gallwn i rymuso plant a phobl ifanc i edrych y tu ôl i’w drysau a gwireddu eu potensial, byddwn i wedi gwneud dyled i’r rôl hon.

Mae gan bob person eu drws eu hunain (fel yn y ffilm Monsters Inc) sydd yn wahanol siapiau a meintiau, lliwiau a phatrymau, a’r cyfan roeddwn i eisiau ei wneud, ac yn credu fy mod wedi’i wneud, yw agor sawl drws i blant dros y ddwy flynedd ddiwethaf a’u cael nhw i ddeall bod eu holl potensial tu ôl i’w drws. Mae nhw wir yn wyrthiau.

Yn ddiweddar, ac yn ôl pob tebyg, am y tro cyntaf yn fy mywyd rwy’n cymryd yr amser i fyfyrio. Dywedodd ffrind i mi yn ddiweddar, “dydych chi byth yn gwybod nac yn sylweddoli eich bod wedi bod ar daith nes i chi gymryd yr amser i edrych y tu ôl ar yr holl olion traed sydd wedi arwain at ble rydych chi nawr”. Ac wrth i mi edrych yn ôl ar yr fy olion traed dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf llawn emosiwn.

O blentyn a fu bron â mynd i’r carchar, i ddod yn Children’s Laureate Wales, mae y tu hwnt i unrhyw beth y byddwn i erioed wedi’i ddychmygu yn fy arddegau. Ac wrth i mi eistedd a myfyrio, rydw i mor falch – os yw fy nghyfnod i wedi agor y drws i un ‘Connor’ yng Nghymru i ddeall eu potensial a dewis trywydd gwahanol yna dwi’n hapus.

Os yw’r plant a gafodd eu magu fel fi yn deall y gallan nhw fod yn gymaint mwy na’r labeli mae cymdeithas yn eu rhoi arnyn nhw, yna roedd y cyfan werth o.

Gwnaeth y rôl hon i ysgol leol (Ysgol Gynradd Somerton) fy newis i fel person ysbrydoledig ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon ac roeddwn i wir wedi fy syfrdanu oherwydd pan roeddwn i’n arfer meddwl am Fis Hanes Pobl Dduon byddwn bob amser yn meddwl am y bobl ysbrydoledig oedd wedi gwneud newid byd-eang, felly roedd cael fy nghydnabod yn lleol yn fy nghymuned am ysbrydoli newid yn wych, yn ogystal â chael llyfrgell mewn ysgol uwchradd yng Nghasnewydd (St Joseph’s) wedi’i henwi ar fy ôl – cwbl wallgof!

Llyfrgell wedi’i henwi ‘The Connor Allen Library’ yn swyddogol am y gwaith rydw i wedi’i wneud a’r cyfraniadau rydw i wedi’u gwneud. Aeth y rôl â fi i ŵyl lyfrau fwyaf y byd i berfformio ar lwyfan, i arwyddo llyfrau rydw i wedi’u hysgrifennu, ac i Gastell Windsor. Cefais deithio’r wlad a gweld y genhedlaeth nesaf yn eu holl ogoniant.

Roeddwn i’n arfer credu nad oedd pethau fel hyn yn gallu digwydd i bobl fel fi. Plentyn o stad cyngor yng Nghasnewydd a gafodd ei fagu gan fam sengl.

Ond wrth i’r bennod hon ddod i ben, gallaf ddweud fy mod yn brawf byw y gall ddigwydd ac ei fod e wedi digwydd. Ni fyddwn yn newid un eiliad o’r daith hon oherwydd mae wedi rhoi cymaint o lawenydd i mi ac wedi dysgu cymaint i mi.

Dyfyniad sydd bob amser yn aros gyda mi yw, “Peidiwch ag anelu at wneud bywoliaeth, dyhewch at wneud gwahaniaeth”, ac mae’r rôl hon wedi rhoi’r llwyfan i mi wneud gwahaniaeth mewn cymaint o ffyrdd.

Mae wedi bod yn wallgof. Felly diolch i bob un sydd wedi dilyn y daith hon. Diolch i bawb sydd wedi credu ynof pan nad oeddwn i’n credu ynof fy hun. A diolch i bawb a ganiataodd i mi fod yn Children’s Laureate Wales.

 

Cariad bob amser.

Con x

Plant a Phobl Ifanc