Cyfleoedd
Croeso i dudalen cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru, sydd yn cynnwys casgliad o gyfleoedd llenyddol mewnol ac allanol, o gystadlaethau i breswyliadau, o Gymru a thu hwnt. Pe hoffech i ni hyrwyddo unrhyw gyfle ar eich rhan, ebostiwch ni: post@llenyddiaethcymru.org
Cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru
Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli – 26 Chwefror (2.00pm)
Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2026, eu cyfle datblygu proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (21 Mai – 31 Mai) o ddydd Gwener 22 Mai i ddydd Sul 31 Mai 2026. Bydd y rhaglen 10 diwrnod o hyd yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt. Mwy.
Rhaglen Datblygu Awduron
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o lansio rhaglen o webinarau rhad ac am ddim i ysbrydoli ac addysgu awduron Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd cyfle i gwrdd â golygyddion gweisg, awduron llwyddiannus a’r rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Porwch drwy’r rhaglen a cofrestrwch heddiw!
Cyrsiau ac Encilion Tŷ Newydd
Mae gennym ddewis eang o gyrsiau ac encilion creadigol ar gael yn Nhŷ Newydd – ein Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol. Porwch drwy’r holl gyrsiau ac encilion sydd ar gael.
Swyddi
Sinfonia Cymru: Cynorthwyydd Marchnata – 5 Mawrth (10am)
Mae Sinfonia Cymru yn recriwtio Cynorthwy-ydd Marchnata i weithio gyda’n Ymgynghorydd Marchnata Heulwen Davies o Llais Cymru a John Holmes, ein Strategydd Marchnata. Byddwch yn cyfrannu at ein holl waith marchnata yn cynnwys sianeli traddodiadol a’r digidol.
Mae hon yn swydd rhan amser, 3 diwrnod yr wythnos gyda chyflog o £14,000 (£24,000 pro rata). Rydym yn dîm bach cyfeillgar ac yn cynnig patrwm gweithio hyblyg, yn gyfuniad o weithio o adref ac yn ein lleoliadau perfformio yng Nghymru. Swydd ar gael! – Cynorthwy-ydd Marchnata | Arts Council of Wales
Theatr Iolo: Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu – 20 Mawrth
Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod ar flaen y gad ym maes theatr i blant a phobl ifanc ers bron i ddeugain mlynedd. Rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i fod yn gyfrifol am ddyfeisio a gweithredu’r holl strategaethau ac ymgyrchoedd marchnata, datblygu cynulleidfaoedd ac ymgysylltu ar gyfer pob agwedd ar waith y cwmni, er mwyn cryfhau ac amrywio ein cynulleidfa. Reolwr Marchnata a Chyfathrebu | Arts Council of Wales
Galwadau
Hack Publishing – Parhaus
Mae Hack Publishing yn chwilio am 10 awdur i ymuno ar brosiect cyffrous fydd yn archwilio gwaith nawr, a diwylliant gwaith yn y dyfodol. Bydd y prosiect ar ffurf casgliad o draethodau gyda 10 persbectif gwahanol, er ein bod yn annog awduron i arbrofi gyda genre.
Yn ogystal, maent yn chwilio am awduron i gyfrannu at eu rhifyn newydd o’r cylchgrawn. Gwytnwch yw thema’r rhifyn cyntaf. Gall awduron anfon gwaith o unrhyw genre hyd at 3,500 o eiriau. Dyma gyfle i awduron newydd weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi ar y cyd ag eraill.
Mae’r manylion llawn draw ar eu gwefan.
Wasafiri: Galwad am Bapurau a Gwobr Traethawd – Parhaus
Mae Wasafiri yn agored ar gyfer cyflwyniadau o erthyglau a thraethodau beirniadol, adolygiadau, a chyfweliadau ar bwnc llenyddiaeth gyfoes. Mae gwybodaeth am y broses gyflwyno ar gael yma.
Dyfernir Gwobr Traethawd Wasafiri i’r traethawd gorau o 5000-8000 o eiriau gan ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa ar bwnc llenyddiaeth gyfoes ryngwladol. Dylid cyflwyno ceisiadau trwy borth cyflwyno Wasafiri wrth ddewis yr opsiwn i’w ystyried ar gyfer y wobr. Bydd yr enillydd yn derbyn £250, cyhoeddiad ei draethawd, sesiwn fentora, a thanysgrifiad blynyddol i Wasafiri.
Mae mwy o fanylion am Wobr Traethawd Wasafiri ar gael yma.
Cylchgrawn Folding Rock – Parhaus
Mae Folding Rock bob amser yn chwilio am y ffuglen a’r llyfrau ffeithiol creadigol gorau yng Nghymru, o Gymru ac sy’n gysylltiedig â hi. Rydym yn derbyn gwaith gan awduron o unrhyw gam ac oedran, ac rydym yn talu am bob darn a gyhoeddwn. Mae galwadau bob amser ar agor ond bydd galwadau thema benodol ar gyfer pob rhifyn yn cael eu gwneud dair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn derbyn cynigion am gyfieithiadau, traethodau gweledol a gwaith amlgyfrwng – edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion: https://foldingrock.com/submit-your-work/
Os ydych chi’n awdur neu’n gyhoeddwr sydd â llyfr allan sy’n gysylltiedig â Chymru, dywedwch wrthym amdano yma: https://foldingrock.com/tell-us-about-a-book/
New Croton Review – Parhaus
Er bod y New Croton Review yn cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol yn Saesneg, rydym yn croesawu cyfieithiadau o waith a ysgrifennwyd mewn ieithoedd eraill (cyn belled â bod awdur y gwaith a gyfieithwyd, os oes gan awdur y gwaith a gyfieithwyd hawlfraint o hyd, wedi rhoi caniatâd i’r cyfieithu). Gall y rhai sy’n cyflwyno cyfieithiad Saesneg o’u gwaith eu hunain yn y Gymraeg hefyd gyflwyno’r fersiwn wreiddiol yn y Gymraeg a dylent nodi a yw’n well ganddynt, os derbynnir y cyfieithiad i’w gyhoeddi, gynnwys y fersiwn wreiddiol. Rhagor o fanylion: New Croton Review
M2M Books: Galwad am Farddoniaeth a Rhyddiaith – 13 Mawrth
Mae Margin to Margin Books yn falch iawn o gyhoeddi galwad agored am gyflwyniadau ar gyfer ein hail flodeugerdd aml-gymunedol. Mae’r casgliad hwn yn ceisio ymhelaethu ar ystod o leisiau o’r cyrion llenyddol. Ar gyfer y gyfrol hon, rydym yn ehangu ein gorwelion. Er bod barddoniaeth yn parhau i fod wrth wraidd y prosiect, rydym hefyd yn agor y drws i ryddiaith. Rydym yn gwahodd cyflwyniadau sy’n siarad â Chymunedau Ymylol yn y categorïau canlynol: Barddoniaeth: Beiddgar, hardd, heb ei hidlo. Straeon Byrion: Ffuglen naratif sy’n archwilio cymhlethdodau hunaniaeth a lle. Traethodau: Myfyrdodau personol, beirniadaethau cymdeithasol, a phrofiadau byw. Open Call for Poetry & Prose Submissions: 2026 Anthology – Margin to Margin Books
Cystadlaethau
Eisteddfodau – Parhaus
Cynhelir nifer o Eisteddfodau ar draws Cymru ar hyd y flwyddyn, ble mae modd cystadlu mewn cystadlaethau llenyddol.
Gellir gweld y dyddiadau cau yma, neu ragor o wybodaeth yn fan hyn.