Gwaith Comisiwn i Awduron #3
Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wynebu cyfnod eithriadol o bryderus, a hynny yng nghyd-destun ein hiechyd a’n llesiant meddyliol a chorfforol fel unigolion a chymunedau, ac yn arbennig felly i’r rheini sy’n dibynnu ar incwm llawrydd. Pwrpas y galwadau agored hyn yw galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynwyd yn diddanu, ysbrydoli ac yn addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.
Fe dderbyniodd y 5 awdur canlynol gomisiwn gwerth £2,000 yr un i greu a chynnal gweithgareddau digidol. Gallwch ddarllen rhagor am bob awdur, a’u prosiect, trwy glicio ar y dolenni isod.