Rhyngweithiadau Creadigol Mewn Hinsawdd Rithiol
Cyhoeddwyd Iau 29 Ebr 2021

Mae Darn wrth Ddarn, prosiect ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, Mind Casnewydd, a Community Youth, yn dod ag awduron ac artistiaid ynghyd er mwyn creu barddoniaeth, ffilm a phrosiectau cerddoriaeth i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Yn dilyn galwad agored ym mis Medi 2020, penodwyd 15 o artistiaid i fod yn rhan o’r prosiect. Mae Bill Taylor-Beales, sydd ymarferydd creadigol gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel Artist sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, wedi bod yn arwain sesiynnau creadigol fel rhan o’r prosiect, ac wedi mynd ati i lunio blog ar y profiad, sydd ar gael i’w ddarllen yma.
Mae modd gwylio’r fideo a grëwyd fel rhan o’r prosiect isod: