Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored: Cyfle i Awduron, Artistiaid a Chynhyrchwyr Ffilmiau

Cyhoeddwyd Maw 1 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored: Cyfle i Awduron, Artistiaid a Chynhyrchwyr Ffilmiau

Darn wrth Ddarn
– partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Mind Casnewydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Mind Casnewydd a Community House, Maindee Youth i wahodd mynegiannau o ddiddordeb gan awduron, artistiaid a chynhyrchwyr ffilmiau i ddatblygu a chynnal eu prosiect Bridging the Gap, wedi ei ariannu gan Comic Relief. Bydd y prosiect hwn yn darparu cefnogaeth i deuluoedd a phobl ifanc yng Nghasnewydd i gydnabod ac i leihau effaith iechyd meddwl gwael. Bydd y prosiect yn cychwyn yn hydref 2020.

Mae cyfranogi, a chymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yn benodol, yn un o dri brif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw cynyddu mynediad at ac effaith ysgrifennu creadigol ar gyfranogwyr yng Nghymru er mwyn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb, Iechyd a Llesiant a Plant a Phobl Ifanc fel ein tair Blaenoriaeth Dactegol. Dyma’r themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth yr ydym yn ei gyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.

 

Pa gyfleoedd sydd ar gael? 

Mae dau gyfle gwahanol, gyda thâl, ar gael fel rhan o’r prosiect hwn.

 

Ymarferwyr Creadigol

Rydym yn chwilio am Ymarferwyr Creadigol (hyd at 8) i ddatblygu a chynnal prosiectau cyfranogi llenyddol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghasnewydd. Bydd y prosiectau hyn yn defnyddio llenyddiaeth mewn amryw ffurf er mwyn ymateb i ystod o faterion iechyd meddwl. Mae ffi o £150 ar gyfer pob gweithdy, gydag uchafswm ffi o £1,050 ar gyfer prosiect cyfan.

Mae hyn yn cynnwys:

  • cynnal prosiect creadigol 3 – 4 sesiwn gyda grwpiau bychain o bobl ifanc, er mwyn darganfod a mynegi eu teimladau ynghylch iechyd meddwl
  • creu adnodd/ffilm/pamffled
  • datblygu prosiect creadigol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd

Mae’r ffi hwn yn cynnwys yr holl dreuliau gan gynnwys TAW a chostau teithio.

 

Cyfle Cysgodi gyda thâl

Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau gan egin awduron, artistiaid neu gynhyrchwyr ffilmiau a fyddai’n elwa o hyfforddiant a phrofiad ychwanegol cyn ymgeisio ar gyfer cyfle tebyg i’r Ymarferydd Creadigol. Bydd y cyfle cysgodi hwn yn gyfle i ddysgu gan ymarferydd creadigol profiadol yn ystod gweithdai. Mae ffi per diem o £50 y diwrnod, hyd at uchafswm o £200, ar gyfer y cyfle hwn.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cysgodi ymarferydd creadigol profiadol mewn gweithdy llenyddol
  • Cyfrannu tuag at syniadau a gweithgareddau creadigol y gweithdy
  • Cynnal gweithgaredd gwerthuso byr ar ddiwedd y sesiwn

Mae’r ffi hwn yn cynnwys yr holl dreuliau gan gynnwys TAW a chostau teithio.

Dyddiad cau i fynegi diddordeb:
12.00 hanner dydd, dydd Llun 21 Medi

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu dethol a’u cadarnhau erbyn dydd Mercher 30 Medi. Caiff yr artistiaid eu dethol gan banel o Wirfoddolwyr Llysgenhadon Ifanc, Mind Casnewydd, ac aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru, Mind Casnewydd a Community House, Maindee Youth ar sail profiad, argaeledd a pha mor addas ydynt ar gyfer y prosiect.

 

Sut i wneud cais

Lawrlwythwch y ddogfen isod sy’n darparu rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn, yn ogystal â manylion ynglyn â sut i wneud cais. Pe dymunwch dderbyn y dogfennau mewn fformat gwahanol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Literature Wales

Dogfennau

Galwad Agored: Cyfle i Awduron, Artistiaid a Chynhyrchwyr Ffilmiau (PDF)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 166KB
Galwad Agored: Cyfle i Awduron, Artistiaid a Chynhyrchwyr Ffilmiau (Word)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 137KB
Galwad Agored: Cyfle i Awduron, Artistiaid a Chynhyrchwyr Ffilmiau (Ffurflen Gais Word)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 302KB