Galwad: Bardd Plant Cymru 2021-2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Bardd Plant Cymru 2021-2023 i danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd i danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth.
Sefydlwyd y rôl yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 16 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Drwy weithdai a gweithgareddau amrywiol, mae’n rôl sy’n defnyddio llenyddiaeth er mwyn annog creadigrwydd a meithrin hunan-hyder a sgiliau cyfathrebu ymysg plant Cymru.
Ydych chi’n fardd sydd wrth eich bodd yn gweithio gyda phlant? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, grymuso, gwella a chyfoethogi bywydau – yn enwedig bywydau pobl ifanc? Ydych chi’n awyddus i ddathlu a chynrychioli diwylliant llenyddol Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol? Yna rydyn ni am glywed gennych chi!
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Bardd Plant Cymru 2021-2023 ac yn gwahodd ceisiadau gan unigolion talentog ac angerddol sydd â gweledigaeth gref ar gyfer y rôl hon. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod o gefndiroedd a phrofiadau, a byddwn yn ystyried egin feirdd a beirdd profiadol fel ei gilydd. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n rhannu ein gwerthoedd o gydraddoldeb a chynrychiolaeth, ac a fydd yn llysgennad dros hawliau plant i fod yn greadigol, i fynegi eu hunain ac i gael eu lleisiau wedi’u clywed, ac wrth gwrs i gael hwyl gyda geiriau.
Caiff prosiect Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Am y rôl
- Bydd y Bardd Plant Cymru nesaf yn cychwyn yn eu rôl o hydref 2021 ymlaen. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Llun 19 Gorffennaf.
- Dyma rôl dwy flynedd o hyd, tan hydref 2023.
- Y ffi ar gyfer y gwaith yw £8,000 y flwyddyn, ynghyd â threuliau, a bydd y cynllun gweithgaredd yn cyfateb i tua 20 diwrnod o weithgaredd pob blwyddyn.
- Nodwch, os gwelwch yn dda: gall natur a ffurf y dyddiau gweithdai amrywio. Ambell ddydd, byddwch yn cyflawni gweithdy mewn ysgol, ond ar ddyddiau eraill falle y byddwch chi’n gweithio o adref ar gerdd gomisiwn. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adrannau isod.
- Mae’r gwaith yn cynnwys cynnal gweithdai i blant a phobl ifanc, cyfansoddi cerddi comisiwn, ac amryw o weithgareddau eraill mewn ysgolion ac mewn lleoliadau amrywiol (e.e. gwyliau celfyddydol a chlybiau ieuenctid). Mae’n debygol iawn y bydd cynigion am gomisiynau pellach yn dod i law, a gwahoddiadau i arwain ymgyrchoedd a phrosiectau cenedlaethol eraill.
- Caiff y Bardd Plant Cymru ei ystyried fel llysgennad ar gyfer plant, a llenyddiaeth plant, yn ogystal â bod yn eiriolwr dros faterion sydd yn bwysig i genedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys iechyd meddwl, addysg a’r argyfwng hinsawdd. Mae’n debygol y bydd yna gyfleoedd ar gyfer comisiynau pellach gan bartneriaid allanol, a gwahoddiadau i arwain ymgyrchoedd cenedlaethol.
- Mae Bardd Plant Cymru yn ymgysylltu â phlant ledled Cymru ac yn eu hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu hunain trwy farddoniaeth yn y Gymraeg.
- Mae Bardd Plant Cymru yn rôl gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd.
- Mae Bardd Plant Cymru yn brosiect Cymraeg ei iaith sy’n gweithio ochr yn ochr â’i chwaer-brosiect Saesneg, Children’s Laureate Wales. Bydd y Children’s Laureate Wales nesaf yn cychwyn yn yr hydref hefyd, a bydd y rôl yn para am ddwy flynedd.
- Y Bardd Plant Cymru presennol yw Gruffudd Owen, yr unfed bardd ar bymtheg i ymgymryd â’r rôl. Mae’r holl gyn-feirdd plant i’w gweld yma.
Sut mae’r prosiect yn gweithio?
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Bardd Plant Cymru newydd i ddyfeisio, datblygu a threfnu rhaglen o weithgareddau am y ddwy flynedd. Rydyn ni yma i gefnogi a hwyluso’r rôl, ac rydyn ni eisiau i’r bardd roi ei stamp ei hun ar y rôl.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan egin feirdd a beirdd profiadol. Gall egin feirdd ffynnu yn y rôl hon gan dderbyn ystod o gyfleoedd i ddatblygu eu proffil. Mae’r rôl yn darparu llwyfan i feithrin sgiliau drwy gynnal gweithgareddau creadigol gyda chyfranogwyr, ynghyd â datblygu enw da artistig a phroffesiynol.
Bydd ein Blaenoriaethau Tactegol yn flaenllaw yn ein gwaith yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn hynny o beth rydyn ni’n awyddus iawn i annog ceisiadau gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth, a gan y rhai sy’n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Rydym yn gweithredu diwylliant gwrth-hiliaeth ac yn datblygu ein polisiau Diogelu a pholisiau Adnoddau Dynol i gynnwys prosesau arfer da wrth weithio gyda’r rheiny sydd wedi dioddef trawma gwahaniaethu, ac yn gweithio tuag at fynd i’r afael â chynil-ymosodiad yn y gweithle. Rydyn ni’n ymroddedig i fodloni gofynion mynediad – rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.
Meini Prawf a Thelerau
Bydd Bardd Plant Cymru 2021-2023:
- yn gallu ymrwymo i o leiaf 20 diwrnod gwaith y flwyddyn i weithio fel Bardd Plant Cymru; Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich argaeledd (e.e oherwydd cyflogaeth a/neu ddyletswyddau gofal) i gyflawni’r rôl, cysylltwch am sgwrs;
- yn gallu gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed;
- eisoes wedi ysgrifennu rhai cerddi ar gyfer plant a/neu bobl ifanc; ac
- yn siaradwr cyhoeddus hyderus a deinamig.
Yn ogystal â’r rhaglen waith graidd, gall Llenyddiaeth Cymru a’r partneriaid gynnig comisiynau, preswyliadau a chyfleoedd pellach i’r bardd yn ystod y ddwy flynedd. Byddai unrhyw waith ychwanegol yn cael ei gytundebu ar wahân.
Bydd y rhaglen waith yn cael ei chadarnhau unwaith y bydd y penodiad wedi’i wneud, gan ystyried blaenoriaethau, syniadau ac arbenigeddau’r bardd.
Bydd Bardd Plant Cymru yn derbyn ffi o £8,000 y flwyddyn, ynghyd â threuliau. Mae’r ffi yn cynnwys amser ar gyfer trafod, cynllunio a gweinyddu. Rhaid i’r bardd fod yn byw yng Nghymru. Rhaid i’r bardd fod yn byw yng Nghymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl; ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig; pobl LHBTQ+; a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is o dan reolau gweithredu cadarnhaol y Ddeddf Gydraddoldeb 2010.
Sut i ymgeisio?
Islwythwch un o’r dogfennau isod er mwyn darllen y fanyleb yn llawn. Mae rhagor o fanylion ynglyn â sut i ymgeisio ar gael yn y ddogfen.
Dyddiad cau: 5.00 pm, dydd Llun 19 Gorffennaf 2021
Am ragor o wybodaeth, islwythwch un o’r dogfennau isod, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru am sgwrs bellach: post@llenyddiaethcymru.org
Gwybodaeth Bellach
Mae rhagor o wybodaeth am yr alwad yma ar gael isod, mewn ffurf PDF, Word a Phrint Bras. Gallwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformatau hygyrch eraill pe dymuned hynny. Cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org