Dewislen
English
Cysylltwch

Mae darllen llenyddiaeth a gwrando ar lenyddiaeth yn weithred greadigol sy’n galw am ddefnyddio’r dychymyg. Pobl sy’n dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yw darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol. Gall olygu darllen llyfr gartref, cymryd rhan mewn gweithdy yn y gymuned neu mewn ysgol, neu hyd yn oed fwynhau sgwrs gan awdur mewn gŵyl lenyddol. 

Drwy ymwneud â llenyddiaeth, bydd darllenwyr, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr creadigol yn teimlo’u bod nhw’n perthyn, ond byddan nhw’n dysgu am y byd o’u hamgylch ar yr un pryd. Byddan nhw’n meithrin y sgiliau a’r hyder i fynegi emosiynau drwy ysgrifennu’n greadigol, ac i ddefnyddio’u lleisiau i drafod a newid pethau. 

Nôl i Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?