Dewislen
English
Cysylltwch

Gyda phwy rydyn ni’n gweithio? 

Elfen bwysig o’n gwaith yw galluogi awduron i ddatblygu eu potensial i’w heithaf. Mae awduron yn rhan hollbwysig o ecosystem lenyddol iach. Rydyn ni hefyd yn gweld potensial ehangach llenyddiaeth wrth rymuso, gwella a chyfoethogi bywydau pawb yng Nghymru. O blant i ymgyrchwyr hinsawdd, o feirdd i weinidogion y llywodraeth, rydyn ni i gyd yn ceisio ymwneud â’n gilydd drwy eiriau.