Galwad Agored i Awduron: cwrs blynyddol Llenyddiaeth Cymru i egin awduron nawr ar agor ar gyfer ceisiadau

Caiff y cwrs, (Ail)Sgwennu Cymru ei diwtora gan Darren Chetty a Iestyn Tyne, a caiff ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Llun 27 i ddydd Gwener 31 Mawrth 2023.
Mae’r thema eleni wedi cael ei ysbrydoli gan y gyfrol o ysgrifau, Welsh (Plural), sydd wedi ei gyd-olygu gan diwtoriaid y cwrs, Darren Chetty a Iestyn Tyne, gyda Hanan Issa a Grug Muse, ac mae’n archwilio cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig.
Bydd gan bawb ar y cwrs agwedd wahanol tuag at Gymru a Chymreictod. Bydd ganddynt brofiadau gwahanol o fywyd yng Nghymru, a syniadau amrywiol am ei dyfodol. Edrychwn ymlaen at groesawu awduron i rannu eu safbwyntiau unigryw ar y thema, gan edrych yn arbennig ar groesawu awduron sydd wedi cael eu tangynrychioli yn ein llên.
Gall egin awduron o bob oed wneud cais – cyn belled eu bod yn 18 neu’n hŷn ar y dyddiad cau.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs a’r broses o wneud cais ar ein gwefan, sy’n cynnwys y galwad agored llawn, atebion i rai cwestiynau cyffredin, a manylion ymgeisio. Mae’r holl ddogfennau ar gael i’w islwytho mewn print bras a fformat dyslecsia gyfeillgar.