Dewislen
English
Cysylltwch
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi cau.

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW
Tiwtoriaid: Darren Chetty & Iestyn Tyne – dysgwch fwy am y tiwtoriaid yma.

Tiwtoriaid gwadd: I’w gadarnhau

Dyddiadau pwysig:

  • Dyddiadau’r cwrs: Nos Lun 27 – Bore Gwener 31 Mawrth 2023
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm ar 11 Ionawr 2023
  • Bydd pob ymgeisydd yn clywed gennym cyn 10 Chwefror 2023

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o wahodd ceisiadau ar gyfer ein Cwrs Egin Awduron 2023 yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dyma gyfle blynyddol i awduron sy’n byw yng Nghymru i fynychu cwrs rhad ac am ddim i ddatblygu eu crefft. Gall egin awduron o bob oed wneud cais – cyn belled eu bod yn 18 neu’n hŷn ar y dyddiad cau.  Bydd hyd at 12 awdur yn cael eu dewis ar gyfer y cwrs hwn. Bydd y cwrs yn cynnwys tri diwrnod yn llawn gweithgareddau i ddysgu crefft, a phedair noson o ddigwyddiadau a sgyrsiau. Darperir llety ac arlwyo ar y safle.  

Mae’r thema eleni wedi cael ei ysbrydoli gan y gyfrol o ysgrifau, Welsh (Plural), sydd wedi ei gyd-olygu gan diwtoriaid y cwrs, Darren Chetty a Iestyn Tyne, gyda Hanan Issa a Grug Muse, ac mae’n archwilio cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig.  

Bydd gan bawb ar y cwrs agwedd wahanol tuag at Gymru a Chymreictod. Bydd ganddynt brofiadau gwahanol o fywyd yng Nghymru, a syniadau amrywiol am ei dyfodol. Edrychwn ymlaen at groesawu awduron i rannu eu safbwyntiau unigryw ar y thema, gan edrych yn arbennig ar groesawu awduron sydd wedi cael eu tangynrychioli yn ein llên. 

Bydd rhaglen lawn o weithdai a sgyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg, ac ambell sesiwn hefyd yn y Gymraeg. Mae’r tiwtor Iestyn Tyne yn siaradwr Cymraeg rhugl, a bydd yn gallu cefnogi awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg trwy asesu gwaith ar y gweill a darparu cyngor. Bydd y cwrs felly yn addas a defnyddiol i awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, yn ddwyieithog neu yn Saesneg, ac i’r rheini sy’n ystyried ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn awyddus i fagu hyder. 

Drwy raglen o weithdai, trafodaethau, sgyrsiau a darlleniadau, byddwn yn dadansoddi gwaith ein gilydd mewn ffordd sy’n ddefnyddiol a chefnogol i bob unigolyn. Bydd hyn yn ein helpu i archwilio ac ehangu ein technegau ysgrifennu er mwyn rhoi rhagor o ystyr a chymhelliant i’n gwaith wrth drafod ein profiadau a’n gobeithion. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar lenyddiaeth ffeithiol-greadigol, ond rydym hefyd yn croesawu awduron ffuglen, beirdd, a’r rhai sy’n gwbl newydd i ysgrifennu creadigol. Yn ystod yr wythnos, byddwn yn mwynhau rhannu ein gwaith gydag eraill, ac yn gweithio tuag at ddatblygu darn o waith ysgrifennu i safon digon da i’w gyhoeddi. 

Yn ystod yr wythnos, bydd gennych chi ddigon o amser hamdden i archwilio’r ardal hardd sy’n amgylchynu Tŷ Newydd. Cewch fwynhau bwyd cartref wedi’i baratoi ar eich cyfer gan ein cogydd preswyl, a chymryd cyfle i ymlacio yn un o’n llyfrgelloedd gyda’ch cyd-awduron. 

 

Bydd cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru i’r awduron yn parhau y tu hwnt i’r cwrs, gyda rhaglen ôl-ofal wedi ei datblygu i sicrhau eich bod yn parhau i weithio tuag at eich amcanion fel awdur, ac yn parhau i gyfarfod fel grŵp i rannu llwyddiannau a chyfleoedd. 

Mewn partneriaeth â Wales Arts Review, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno’r gwaith a ddatblygwyd yn ystod y cwrs i’r golygyddion gyda phosibilrwydd o’i gyhoeddi ar eu platfform arlein poblogaidd. Bydd ceisiadau llwyddiannus i gyhoeddi yn derbyn cefnogaeth golygyddol a ffi am y gwaith. Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn yn ystod y cwrs.  

 

Diddordeb?

Dyma sut mae Ymgeisioneu darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin

Nôl i Cwrs Egin Awduron 2023: (Ail)Sgwennu Cymru