Cwrs Egin Awduron 2023: (Ail)Sgwennu Cymru
Dyma gyfle blynyddol i awduron sy’n byw yng Nghymru i fynychu cwrs rhad ac am ddim i ddatblygu eu crefft ac i fentro ysgrifennu mewn genre gwahanol, gyda’r ffocws eleni ar ysgrifennu ffeithiol-greadigol. Eleni bydd y cwrs yn ein hannog i archwilio cymhlethdodau hunaniaeth Gymreig. Y tiwtoriaid yw Darren Chetty ac Iestyn Tyne, a’r Darllenwyr Gwadd yw Grug Muse, ac Hanan Issa – Bardd Cenedlaethol Cymru.