Cyhoeddi encil ar y cyd gyda Kathod: Galwad agored am feirdd, cerddorion a’r rhai sydd eisoes yn pontio’r ddwy ffurf

Dyddiadau Pwysig:
Dyddiad cau mynegi diddordeb: 12.00 pm Dydd Gwener 12 Ionawr 2024
Dyddiadau’r encil: Dydd Gwener 23 – Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Nod yr encil fydd cynnig y gofod a’r amser i fenywod ac unigolion o rywiau ymylol i gyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth llafar mewn modd cyffrous, arloesol a chyfoes. Yn ystod yr wythnos, bydd y cyfranogwyr yn archwilio gwahanol themâu mewn modd chwareus a heriol tra’n darganfod gwaith artistiaid barddoniaeth llafar a cherddorion blaengar. Bydd cyfle iddynt wyrdroi delweddau barddonol, dysgu i ddefnyddio eu cyrff fel arfau cyfathrebu, a magu hyder yn eu ysgrifennu, cyfansoddi a chynhyrchu. Mewn awyrgylch cynhwysol, anffurfiol a chreadigol, bydd yr artistiaid yn cyd-annog ei gilydd i chwarae gyda geiriau a sain wrth iddynt arbrofi gyda’r ddwy ffurf law yn llaw.
Mi fydd cydlynwyr Kathod (Heledd Watkins, Bethan Mai, Catrin Morris, Tegwen Bruce-Deans a Llio Maddocks) wrth law yn ystod yr wythnos i hwyluso sesiynau a thrafodaethau creadigol a rhannu sgiliau ac mi fydd sawl hwyluswr gwadd yn ymuno’n wyneb yn wyneb ac yn ddigidol gan gynnwys beirdd llafar profiadol a chynhyrchwyr o’r diwydiant cerddoriaeth.
Y gobaith hirdymor fydd creu EP o’r gwaith, ond arbrofi, cydweithio, a mwynhau bydd y prif amcanion yn ystod yr wythnos ei hun.
Mae’r encil hwn yn agored i unigolion dros 18 oed sy’n uniaethu fel menywod, neu o ryw ymylol. Mae croeso i unigolion ar ddechrau eu taith greadigol, unigolion mwy profiadol, yn ogystal ag unigolion sydd eisoes wedi cydweithio gyda Kathod ac unrhyw un sy’n darganfod y prosiect am y tro cyntaf.
Cynhelir yr encil yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod gwanwyn 2024 a chynhigir y cyfle yn rhad ac am ddim i hyd at ddeg unigolyn.
Ceir rhagor o wybodaeth am y cwrs a’r broses ymgeisio syml ar dudalen prosiect encil Kathod. Mae’r wybodaeth yma’n cynnwys yr alwad agored llawn, cwestiynau cyffredin, a manylion am sut i wneud cais. Mae’r holl ddogfennau ar gael mewn fformatau print bras a dyslecsia-gyfeillgar ar y dudalen Galwad Agored.