Nod yr encil yw cynnig y gofod a’r amser i fenywod ac unigolion o rywiau ymylol i gyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth llafar mewn modd cyffrous, arloesol a chyfoes. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn archwilio gwahanol themâu mewn modd chwareus a heriol tra’n darganfod gwaith artistiaid barddoniaeth llafar a cherddorion blaengar. Cewch wyrdroi delweddau barddonol, dysgu i ddefnyddio eich corff fel arf cyfathrebu, a magu hyder yn eich ysgrifennu, cyfansoddi a chynhyrchu. Mewn awyrgylch cynhwysol, anffurfiol a chreadigol, byddwch yn cyd-annog eich gilydd i chwarae gyda geiriau a sain wrth i chi arbrofi gyda’r ddwy ffurf law yn llaw.
Mi fydd cydlynwyr Kathod (Heledd Watkins, Bethan Mai, Catrin Morris, Tegwen Bruce-Deans a Llio Maddocks) wrth law yn ystod yr wythnos i hwyluso sesiynau a thrafodaethau creadigol a rhannu sgiliau ac mi fydd sawl hwyluswr gwadd yn ymuno’n wyneb yn wyneb ac yn ddigidol gan gynnwys beirdd llafar profiadol a chynhyrchwyr o’r diwydiant cerddoriaeth. Y gobaith hirdymor fydd creu EP o’r gwaith, ond mae’n werth nodi nad oes disgwyl bod darnau gorffenedig wedi eu creu erbyn diwedd yr encil. Arbrofi, cydweithio, a mwynhau bydd y prif amcanion, felly dewch â’ch offerynnau, eich brwdfrydedd a’ch meddyliau agored gyda chi.
Mae’r encil hwn yn agored i unigolion dros 18 oed sydd ar ddechrau eu taith greadigol, unigolion mwy profiadol, yn ogystal ag unigolion sydd eisoes wedi cydweithio gyda Kathod a’r sawl un ohonoch sydd yn darganfod y prosiect am y tro cyntaf.
Cynhelir yr encil yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod gwanwyn 2024 a chynhigir y cyfle yn rhad ac am ddim i hyd at ddeg unigolyn.
Dyddiadau Pwysig
Dyddiad cau mynegi diddordeb: 12.00 pm Dydd Gwener 12 Ionawr 2024
Dyddiadau’r cwrs: Dydd Gwener 23 – Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Mae’r holl ddogfennau ar gael mewn fersiynau print bras a dyslecsia gyfeillgar isod.