Dewislen
English
Cysylltwch

Preswylfa LLIF: 14 awdur Ewropeaidd yn treulio 14 niwrnod yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, tirwedd ac ecoleg

Cyhoeddwyd Gwe 4 Ebr 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Preswylfa LLIF: 14 awdur Ewropeaidd yn treulio 14 niwrnod yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, tirwedd ac ecoleg
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 14 awdur Ewropeaidd fydd yn cydweithio ar breswylfa greadigol yn Nhŷ Newydd ym mis Mai. Themâu’r encil, a fydd yn digwydd rhwng 17 – 30 Mai, yw ecoleg, yr argyfwng hinsawdd a chymdeithas gyda golwg arbennig ar ieithoedd a thafodieithoedd lleiafrifol.

Mae pum bardd o Gymru ymysg yr awduron fydd yn cymryd rhan blaenllaw yn y preswyliad arbennig hwn, sef Meleri Wyn Davies, Hywel Griffiths, Elinor Gwynn, Mererid Hopwood a clare e. potter. Dewiswyd hwy drwy alwad agored yr hydref diwethaf. Yn teithio o amrywiol wledydd yn Ewrop i ymuno â nhw bydd Gianna Olinda Cadonau (Y Swistir), Pol Guasch (Catalonia, Sbaen), Kristin Höller (Yr Almaen), Maarja Pärtna (Estonia), Ligija Purinaša (Latfia), Tina Perić (Slovenia),  Mónika Rusvai (Hwngari), Kim Simonsen  (Ynysoedd y Faroe) a Syds Wiersma (Friesland, Yr Iseldiroedd).

Lluniau o awduron encil awduron LLIF.
Yr 14 awdur fydd yn mynychu encil LLIF.

Gallwch ymweld â thudalen gwefan LLIF i ddarllen mwy am y garfan o awduron.

“Mae’r encil hwn yn gam pwysig i mi nid yn unig fel llysgennad dros y Gymraeg, ond i ddysgu gan bobl ag ieithoedd lleiafrifol ledled y byd. Rwy’n edrych ymlaen at weld pa atebion all godi i amddiffyn a meithrin ieithoedd a’n planed.” – clare e. potter

“Fel bardd a daearyddwr, mae tirwedd a hinsawdd a’n perthynas â nhw wedi bod yn brif thema fy ngwaith ers blynyddoedd a bydd yn brofiad gwych trafod syniadau yng nghwmni awduron eraill sydd â diddordeb yn y meysydd hyn.” – Hywel Griffiths

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at y cyfnod yma o gyfnewid â beirdd Cymraeg a gydag awduron o wledydd eraill – pawb â chyd-destun ieithyddol a diwylliannol a daearyddol gwahanol. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am gysylltiadau rhwng ieithoedd, ecoleg, a’n hamgylchedd, pa un ai yw rheiny’n gysylltiadau barddol ai peidio.” – Gianna Olinda Cadonau

“Yn ystod fy nghyfnod ar breswyliad llenyddol yng Nghymru, rwy’n gobeithio dyfnhau fy nealltwriaeth o sut y gall llenyddiaeth amlygu’r cysylltiadau rhwng dynolryw â’r elfennau sy’n uwch na dynoliaeth – sut y gall straeon agor ein llygaid a’n galluogi i roi sylw i’r di-sylw a’r bregus.” – Kim Simonsen

Bydd yr encil pythefnos o hyd yn creu gofod arbennig i ysgogi trafodaeth a rhannu syniadau rhwng yr awduron drwy gynnwys ymweliadau a theithiau maes, gweithdai a sgyrsiau ynghyd a digon o amser i fyfyrio a chreu yn nhawelwch ac awyrgylch arbennig Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. I gloi’r encil bydd y grŵp yn ymweld â Gŵyl y Gelli ble y caiff pawb flas o’r ŵyl, cyfleoedd i rwydweithio, a bydd rhai o’r garfan yn rhannu eu profiadau mewn sgwrs gyhoeddus ym mhabell Awduron Wrth eu Gwaith.

Rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr a’n partneriaid sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: EUNIC London, Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig, Llenyddiaeth dros Ffiniau, a Gŵyl y Gelli.