Eisteddodd yr aderyn bach ar ben y rwbel
gyda llygaid fel stafelloedd du.
Trodd y bobl oedd yn cloddio
gyda’u dwylo i edrych arni.
Agorodd yr aderyn bach ei phig
i ganu, a dyma ei chân:
Fi yw’r haul ar y môr.
Neidiodd yr aderyn bach
i’r awyr a’i heglu hi lawr strydoedd llawn llwch
yn hedfan uwch bennau’r bobl yn ffoi ar draed wedi llosgi.
Cusanodd gwynt ei hadenydd eu pennau,
a chanodd:
Fi yw’r haul ar y môr, welwch chi,
ni allwch fyth fy nal. Nid fi.
Gwelodd yr aderyn bach y tanciau
a disgynnodd i eistedd ar y stryd.
Yn y campiau
cydiodd y plant yn ei gilydd
wrth glywed y gân a
chofio am foreau oer a the poeth,
am ddwylo’u mamau’n mwytho gwalltiau,
am gloch yr iard ysgol,
diwrnodau diog
a’r haul yn ymestyn fel mêl.
Pan ddaeth y ffrwydrad
cododd yr aderyn gyda’r llwch
a’r malurion, mewn troelliad o blu,
yn ysgafnach nawr nag erioed,
a saethodd drwy’r milwyr
dros y tywod
ac uwchlaw’r tonnau dwfn.
A dyma ei chân:
Fi yw’r haul ar y môr. Welwch chi.
Fi yw’r gân fel cannwyll mewn calon.
Fi yw’r anadl. Fi yw’r golau.
Ni fydd rhyddid heblaw drwof i.
Fi yw’r haul ar y môr. Welwch chi.
Fi yw’r haul ar y môr.
– Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025