Dewislen
English
Cysylltwch

Dalia llaw’r gerdd hon, blasa’r gerdd hon,

crycha’r gerdd hon yn dy law, teimla fe

wedi plygu, wedi gwasgu fel aeronen, fel pnawn

gludiog mis Awst a’r gwynt yn chwythu llwch yn dy lygaid,

dy dad yn dreifio di lawr lonau cul cefn gwlad;

llwch yw’r gerdd hon,

awel boeth, y gwair yn plethu’i bysedd dan dy gefn, a’r sêr yn troelli uwchben,

troella trwy’r gerdd hon fel olwyn ar y lon, fel tonnau, fel atgofion,

teimla’r byd yn tyfu trwy lens y gerdd hon,

gwylia’r swigod las yn codi,

cwympa o’r lannau i mewn i afon y gerdd hon;

teimla dy draed yn llithro, dy geg yn llenwi a dwr,

a chlywa sgrech y gerdd hon wrth neidio i mewn ar dy ôl di;

llynca blas hallt y gerdd hon, y mwd a’r dail yn byrlymu lawr i’r mor,

dipia dy dost yn y gerdd hon, gwasgara’r briwsion dros y bwrdd brecwast;

tafla’r gerdd hon i’r hwyaid, dawnsia dy draed drwy’u plu;

gollynga hufen ia, todda ar y gerdd hon,

agora ymbarel dan law y gerdd hon

a difara peidio gwisgo cot;

neidia mewn pyllau gyda’r gerdd hon,

llynca fe, tagia ar ei hesgyrn, rhwyga fe, llosga fe: cer i sticio dy drwyn

mewn busnes y gerdd hon;

rholia’r gerdd hon mewn cragen, chwarea cuddio; sleifia

lan ar ochr y gerdd hon –

gweidda SYRPREIS,

rho’r gerdd hon yn y golch a gwylia fe’n mynd rownd a rownd a rownd,

cer ar goll mewn coridorau’r gerdd hon, ffeindia dy hun eto

mewn cwpwrdd yn cwtsho mop yn dylyfu gen,

hedfana yn yr awyr wrth ochr y gerdd hon, arnofia yng nghymylau llaith y gerdd hon

fel arogl bisgedi cynnes

fel balŵn, barcud, blimp,

fel tân gwyllt tanbaid Tachwedd,

rho’r gerdd hon ar dân,

hongia lawr a chrea gwe yn y gerdd hon,

cwympa i gysgu ar y gerdd hon;

dawnsia ar y gerdd hon,

cana’r gerdd hon,

darllena fe

sibryda fe

gweidda fe

ysgrifenna’r gerdd hon –

teimla fe’n dod yn fyw.

– Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-2025

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru