Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Sioned Wyn Roberts

Holi’r Awdur: Sioned Wyn Roberts
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Dechreuais i ysgrifennu ar ddamwain llwyr. Roedd gen i wyliau i’w cymryd ac yn awyddus i wneud rhywbeth creadigol, felly es i ar gwrs ysgrifennu i blant yng Nghanolfan Tŷ Newydd gan feddwl y bysa’n help yn fy swydd fel comisiynydd cynnwys plant S4C. Ro’n i wrth fy modd, dyna oedd y sbardun i ddechrau sgwennu a dwi ddim di stopio ers hynny!
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Atgofion plentyn, hanes, hen chwedlau a straeon tylwyth teg.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?
Wolf Hall gan Hilary Mantel.
Hoff lyfr o’ch plentyndod?
Luned Bengoch gan Mary Watkin Jones.
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Darlun ‘An Election Entertainment’ gan William Hogarth sbardunodd yr egin syniad. Mae’r nofel ‘Madws’ wedi’i gosod yn Medi 1752 pan newidodd y calendr o’r Iwlaidd i’r Gregoraidd ac fe gollodd bawb 11 diwrnod. Dim ond ar ôl gweld llun Hogarth o’r protestiadau yn erbyn colli’r 11 diwrnod wnes i ddallt bod y digwyddiad wedi creu cymaint o gynnwrf ymysg y werin bobol. I fi, unwaith mae’r sbardun yna wedi dod, mae o’n denu syniadau eraill fel magned.
Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?
Eich hoff le yn y byd a pam?
Traethau Pen Llŷn. Lle i’r enaid gael llonydd a ballu!
Sut ydych chi’n mynd ati i ddewis enwau eich cymeriadau?
Mewn nofel hanesyddol mae’n rhaid dewis enwau sy’n gweddu i’r cyfnod. Roeddwn i’n chwilio am enw i’r cymeriad Madws am hir – hi yw amser. Yn y diwedd, ddes i ar draws y gair ‘madws’ yn GPC arlein, sef hen air am ‘amser’ neu ‘hen bryd’. Wnaeth o gydio ar unwaith.
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Ges i sioc aruthrol clywed bod Madws ar y rhestr fer! Dwi wrth fy modd bod y panel wedi dewis y nofel, a’i bod hi yna efo ‘Nelan a Bo’ a ‘V a Fo’ – fy hoff nofelau o 2024.
Yng Ngeiriau’r Beirniaid…
Darllen / Gwrando Pellach:
Clwb Darllen Rhaglen Ffion Dafis – ‘Madws’ gan Sioned Wyn Roberts – BBC Sounds
Prynu copi o’r llyfr – Llyfrau | Gwasg Y Bwthyn