Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Carfan Ein Cyfle Datblygu Am Ddim i Awduron Ffuglen

Cyhoeddwyd Llu 24 Tach 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Carfan Ein Cyfle Datblygu Am Ddim i Awduron Ffuglen
Yr wythnos hon yng Nghanolfan Ysgrifennu Newydd, rydym yn croesawu grŵp o awduron a fydd yn mynychu ein preswyliad ysgrifennu ffuglen 5 diwrnod am ddim. Fe’u dewiswyd yn dilyn galwad agored ym mis Awst. 

Mae gan ffuglen y pŵer i lunio sut rydym yn gweld ac yn profi’r byd, gan gynnig ffordd i awduron a darllenwyr archwilio cwestiynau cymdeithasol a moesegol cymhleth. Mae’n agor drysau i safbwyntiau newydd ac yn meithrin empathi. Roedd ein galwad agored yn gwahodd awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i wneud cais am gwrs preswyl rhad ac am ddim i ddatblygu eu sgiliau, cael cipolwg ar y diwydiant, a darparu lle diogel lle gallant adeiladu rhwydwaith gydag unigolion o’r un anian. 

Yr awduron sydd wedi cael eu dewis i fynychu’r encil yw: Kaja Brown, Jason Davies-Redgrave, Pete Evans, Amy Grandvoinet, Soma Ghosh, Shazz Jamieson-Evans, Mason Lloyd, Holly Müller, Theo Malings, Naomi Pearce, Matt Roberts, A Saldanha ac Anest Williams. 

Gallwch ymweld â thudalen Ysgrifennu Ffuglen i gael gwybod mwy amdanynt. Bydd y preswyliad wythnos o hyd yn cael ei diwtora gan Francesca Reece ac Anthony Shapland lle byddant yn cynnal gweithdai ar sut i ymgorffori profiadau bywyd mewn ysgrifennu, adeiladu byd a sut i lywio stori. Bydd amrywiaeth o siaradwyr o’r diwydiant yn cymryd rhan drwy gydol yr wythnos gan gynnwys cynrychiolwyr o Folding Rock, Cylchgrawn Granta, Stinging Fly, Gwobr Stori Fer Rhys Davies a Gwobr Dylan Thomas. Bydd y grŵp hefyd yn mwynhau sesiwn gydag awdur Local Fires, Joshua Jones. 

Penllanw’r wythnos fydd noson o ddathlu gyda pherfformiadau gan y grŵp. Yn dilyn y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gefnogi’r garfan i gyflawni eu huchelgeisiau a’u nodau.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd datblygu Llenyddiaeth Cymru i awduron, ewch draw i’n tudalen Rwy’n Awdur. Efallai y bydd gan awduron ddiddordeb hefyd yn ein Rhaglen Datblygu Awduron – cyfres o webinarau am ddim. 

Rydym yn ddiolchgar i’n harianwyr sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton.