Pencerdd #3: Ymgeisiwch nawr

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi trydedd blwyddyn cynllun Pencerdd, i feirdd Cymraeg sydd am ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr. Mae Pencerdd yn gynllun rhad ac am ddim ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Barddas, ac rydym yn gwahodd beirdd eiddgar i anfon eu ceisiadau nawr.
Dyddiad Cau: 12.00pm hanner dydd, dydd Mercher 21 Ionawr 2026.
Nod cynllun Pencerdd yw rhoi hwb i feirdd lled-newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru. Mae’r cyfle hwn yn benodol ar agor i feirdd sy’n credu fod eu profiadau bywyd a’u cefndiroedd yn cael eu tangynrychioli ym myd y gynghanedd.
Rhaglen blwyddyn o hyd yw Pencerdd, sy’n rhoi cyfle i bum bardd i ganolbwyntio ar ddatblygu crefft y gynghanedd o ddifri. Bydd cyfle i fynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ddiwedd Mawrth 2026 dan arweiniad Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol dros flwyddyn y cynllun, yn ogystal â gofodau sgwennu i gwrdd â beirdd a rhannu eu taith i gynganeddu a chreu rhwydwaith gefnogol.
Dywedodd Non Lewis, un o Ddisgyblion rownd gyntaf Pencerdd: “Dyma brofiad amhrisiadwy yng ngwir ystyr y gair; o’r cwrs yn Nhŷ Newydd, y dosbarthiadau meistr ar lein a’r sesiynau mentora! Does dim dwywaith bod y profiad wedi bod yn hwb aruthrol i mi ar y daith i feistroli’r gynghanedd. Heb os, mae cael fy mentora gan Tudur Dylan, un o gewri’r gynghanedd heddiw, wedi bod yn gwbl ysbrydoledig. Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith caled, ond blwyddyn i’w thrysori.”
Yn gyfnewid am fod ar y cynllun, byddwn yn gofyn i’r beirdd bennu ffordd i eirioli dros y gynghanedd a’r grefft o gynganeddu o fewn eu cymuned eu hunain ar ddiwedd y cyfnod, boed yn gymuned ddaearyddol mewn pentref neu dref neu’n gymuned rithiol o eneidiau hoff gytûn. Enghreifftiau posib fyddai cynnal gweithdy yn eu clwb ieuenctid lleol, neu stondin benillion mewn gŵyl Pride neu Rali Ffermwyr Ifanc, trefnu talwrn neu gyhoeddi erthygl neu flog i ysbrydoli beirdd eraill.
Mae gan unrhyw gyw-gynganeddwyr tan 21 Ionawr 2026 i wneud cais am le ar y cynllun. Mae’n agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n lled-newydd i’r grefft o gynganeddu. Gallwch ddysgu mwy am y cynllun ar dudalen Pencerdd ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o bartneru gyda Chymdeithas Barddas ar y cynllun cyffrous hwn.
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Mae’n fraint cael cydweithio â Barddas eto ar raglen i hybu a datblygu’r gynghanedd, ac yn benodol i ddod o hyd i leisiau newydd ac amrywiol i’w meithrin o fewn y traddodiad barddol unigryw hwn. Bellach ar ei thrydedd blwyddyn, mae Pencerdd eisoes wedi esgor ar ganlyniadau difyr iawn gyda chenhedlaeth newydd a brwd o gynganeddwyr ym mentro ac yn dechrau gadael eu marc. Edrychwn ymlaen i gael cadw cwmni i’r criw o bump wrth iddynt gychwyn ar eu taith.”
Dywedodd Jo Heyde, ar ran pwyllgor Barddas, Y Gymdeithas Gerdd Dafod: “Mae mor gyffrous bod Barddas yn parhau i gyd-weithio â Llenyddiaeth Cymru am y drydedd flwyddyn i gynnal y cynllun hollol arbennig hwn. Dyma gynllun sydd yn adleisio’r traddodiad hirhoedlog o feithrin perthynas addysgol rhwng pencerdd a disgybl barddol er mwyn cynnal a chefnogi’r grefft o gynganeddu.
“Mae’n cynnig y profiad amhrisiadwy a’r sylw arbennig i gyw-gynganeddwyr fireinio eu crefft trwy weithio’n agos iawn â meistri cerdd dafod. A bydd y beirdd yn gallu manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu lleisiau unigryw eu hunain gan edrych tua’r dyfodol ar ba ffordd y byddant yn parhau i hogi sgiliau a chyfrannu’n ehangach at Gerdd Dafod.
“Os ydych â diddordeb mewn bod yn rhan o’r garfan o feirdd ffodus yn 2026, bachwch ar y cyfle i ateb yr alwad agored!”
Cefnogir y rhaglen hon gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Elw Park-Jones.
Rhaglen flynyddol a chyfleodd ledled Cymru
Wyt ti ar dân eisiau dysgu cynganeddu, ond heb ddechrau arni eto? Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnig y cyfle hwn yn flynyddol, felly dechreua nawr gan wybod y bydd modd ymgeisio unwaith eto y flwyddyn nesaf.
Gallet ti ymuno â gwersi lleol, neu ar-lein, a chofia bod cyfres o wyth o wersi cynganeddu rhad ac am ddim i ddechreuwyr gan Aneirin Karadog i’w cael ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel man cychwyn i’th ysbrydoli!
I weld pa gyfleoedd datblygu eraill y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu cynnig, ewch i dudalen Rwy’n Awdur ar ein gwefan.