Dewislen
English
Cysylltwch
Tegwen Bruce-Deans
Mwy
Non Lewis
Mwy
Llinos
Mwy
Buddug Watcyn Roberts
Mwy
Ana Chiabrando Rees
Mwy
Tegwen Bruce-Deans

Cafodd Tegwen Bruce-Deans (hi/ei) ei magu yn Llandrindod, Maesyfed ar ôl symud yno o Lundain gyda’i rhieni di-Gymraeg yn ddwy oed. Enillodd radd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor, lle'r ysgrifennodd ei thraethawd hir ar y berthynas rhwng merched a’r gynghanedd. Bellach, mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio fel cynhyrchydd cynnwys i BBC Radio Cymru. Mae hi hefyd yn creu amrywiaeth o gynnwys llawrydd am gerddoriaeth Gymraeg, ac yn aelod o’r grŵp Kathod.

Cyhoeddodd ei chyfrol cyntaf o gerddi, 'Gwawrio', fel rhan o gyfres Tonfedd Heddiw, Cyhoeddiadau Barddas yn 2023. Mae ei gwaith hefyd wedi’u cyhoeddi mewn amrywiaeth o gasgliadau fel Ffosfforws 2 (gol. Mari Elen Jones, Y Stamp), Sain Ffagan yn 75 (gol. Ifor ap Glyn, Gwasg Carreg Gwalch) a Cariad (gol. Mari Lovgreen, Barddas). Hi hefyd enillodd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 gyda chyfres o gerddi dan y teitl ‘Rhwng dau le’.

Wrth drafod ei gobeithion am raglen Pencerdd, dywedodd Tegwen:
“Un rheswm dw i’n tueddu i droi at fesurau rhydd dros y gynghanedd ar hyn o bryd yw diffyg hyder wrth gyfuno mynegiant gyda ffurf. Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu sut i ymdrin â’r gynghanedd yn greadigol; deall sut mae manteisio ar reolau’r grefft i gyfoethogi fy marddoniaeth, yn hytrach nag ymdroi yng nghaethiwed y mesurau a gadael iddo drechu’r dweud.

Dim ond ar ddechrau fy nhaith farddonol ydw i ar hyn o bryd, felly mae cael cyfle trwy gynllun fel hwn i gyfoethogi fy sgiliau barddonol a rhwydweithio gyda beirdd eraill sy’n angerddol dros wella eu sgiliau cynganeddu yn werthfawr iawn i mi yn y dyfodol.”

Cau
Non Lewis

Yn wreiddiol o Glydach, mae Non Lewis (hi/ei) yn byw ym Mhenybont ar Ogwr. Mae hi’n fam i Mari a Gruff ac yn athrawes y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe. Dechreuodd ddysgu hanfodion y gynghanedd gydag Ysgol Farddol Caerfyrddin yn ystod y cyfnod clo, a rhoddodd y profiad gyfle iddi ail-afael mewn cyfansoddi llenyddiaeth. Enillodd Gadair Ysgol Gyfun Ystalyfera yn 1993 am stori fer, a chadair Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2023 am rap ar y thema ‘Perthyn’.

Wrth drafod ei gobeithion am raglen Pencerdd, dywedodd Non:
Rydw i’n edrych ymlaen at gael cyfle i dderbyn hyfforddiant a mentora i wella fy ngafael ar y gynghanedd, yn ogystal â dysgu ar y cyd â beirdd eraill. Dw i’n ymwybodol iawn bod meistroli’r grefft yn cymryd tua naw mlynedd yn ôl y sôn, felly bydd y flwyddyn nesaf yn gyfle euraidd i wneud camau breision i'r cyfeiriad hwnnw. Yn y pen draw, hoffwn drosglwyddo’r grefft i ddysgwyr yr ysgol a’r gymuned ehangach.

Rwy’n hynod ddiolchgar i athrawon Ysgol Farddol Caerfyrddin am fy ysbrydoli ers 2020, ac mae eu gwaith wrth drosglwyddo’r grefft yn amhrisiadwy. Wrth i fy mhlant dyfu’n oedolion ifanc, mae’r daith o ddysgu’r gynghanedd wedi dod â mwynhad a her newydd i mi’n bersonol. Mae hi’n argoeli’n flwyddyn gyffrous iawn a diolch am y cyfle.

Cau
Llinos

Chwaraea Llinos (nhw/eu) â geiria wrth lunio barddoniaeth 'découpé', yn ogystal ag ysgrifennu darnau ffeithiol-greadigol arbrofol.
Ymddiddorant yn y berthynas rhwng amrywiaeth ecolegol ac ieithoedd lleiafrifoledig. Ar hyn o bryd maent yn archwilio eplesiad fel lens i ddehongli dyfodol y Gymraeg. Cynhaliant weithdai 'zines' fel dull hygyrch o ddogfennu hanesion cymunedol. I weld archif o'u gwaith celf ewch i'r cyfrif Instagram @HenBapurNewydd.

Maen nhw wedi cyhoeddi/cydweithio gyda: Young Creatives Wales: Spacecraft, Peak Cymru, Planet: The Welsh Internationalist, Carfan 2023 Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru, Y Stamp, Beacons Cymru, Creiriau Sain, Casgleb.

Wrth drafod eu gobeithion am raglen Pencerdd, dywedodd Llinos:
“Dwi ’di bod yn chwilio efo crib mân am gwrs hir-dymor i ennill ddealltwriaeth o'r gynghanedd (gymaint ag y gallaf!). Ers ychydig flynyddoedd, dwi ’di ceisio dysgu drwy ddilyn gwers-lyfrau, ond yn anffodus dyw’r llyfrau ddim yn medru cynnig cyngor / beirniadaeth!

Rhywbeth digon diflas ydi ceisio dysgu ar ben dy hun. Felly, bydd y cyfle yma i gyfarfod dysgwyr eraill, yn ogystal â chydweithio gydag arbenigwyr, yn brofiad gwerth chweil. Diolch Llenyddiaeth Cymru am guradu cymuned sy’n rhannu’r un nod ac am hygyrchu’r gynghanedd.”

Cau
Buddug Watcyn Roberts

Fy enw i yw Buddug Watcyn Roberts (hi/ei) ac rwy’n fyfyrwraig 23 mlwydd oed yn dilyn cwrs PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Er yn ifanc iawn mae fy mryd ar ysgrifennu’n greadigol ac rwyf wastad wedi cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Diléit arall yw mynychu gweithdai ysgrifennu. Fodd bynnag, nid oeddwn erioed wedi rhannu fy ngwaith ymhellach na hyn hyd y blynyddoedd diwethaf pan gefais gynnig gan fy narlithydd, Dr Gerwyn Wiliams, i weithio ar brosiect ‘Adra a Chynefin’ gyda chanolfan Pontio. Yn ystod y prosiect hwn cefais gyfarfod llu o bobl newydd a chynhyrchu cerddi byw. Coron ar bopeth oedd gweld fy ngwaith ar lwyfan yn cael ei berfformio.

Ers hynny rwyf wedi cael cyfle i rannu fy ngwaith drwy brosiectau gyda chwmni ifanc Frân Wen ac eisoes wedi rhannu fy ngwaith mewn rhifyn o 'Codi Pais' ac yn ffodus iawn i gael fy ngwaith wedi’i gynnwys yn rhifynnau 'Ffosfforws' gan gyhoeddiadau’r Stamp. Rwyf hefyd erbyn hyn wedi bod digon ffodus o gipio tair cadair mewn eisteddfodau lleol ac wedi dod yn drydydd am gadair yr Urdd yn 2023. Mae rhannu fy ngwaith yn un o’r breintiau mwyaf ac rwy’n hynod ddiolchgar o’r cyfleoedd rwy’n eu mwynhau i rannu llwyfan â beirdd hynod dalentog o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Wrth drafod ei gobeithion am raglen Pencerdd, dywedodd Buddug:
Mae’r teitl ‘bardd’ yn un dw i wedi cael cryn dipyn o drafferth ei hawlio, wrth gwestiynu os ydi ’sgwennu yn nodiadau’n ffôn yn cyfri? Ydw i’n gymwys os nad ydw i wedi cyhoeddi cyfrol eto? Ydi beth ’dw i’n ei ’sgwennu’n ddigon da? A llu o gwestiynau eraill yn procio ydw i hyd yn oed yn fardd? Ond barddoni y mae bardd ac mi ydw i’n barddoni, dw i’n barddoni bob dydd felly ydw, mi ydw i, ym mhob ystyr o’r gair yn fardd. Rwy’n edrych ymlaen cael gafael ar y grefft sydd wedi bod yn nwylo dynion am gryn amser a gweld pa ryddid caiff ei ganfod o fewn crefft gaeth gan ferch ifanc.

Cau
Ana Chiabrando Rees

Ana dw i (hi/ei), dw i’n dod o deulu Cymraeg o’r Wladfa ac yn byw ym Mlas y coed, Gaiman, cartref fy nheulu ers pedair cenhedlaeth. Dw i hefyd yn rhedeg y Tŷ Te Cymreig agorodd fy Hen Nain 80 mlynedd yn ôl yn ei chartref. Dw i’n hoffi coginio’n fawr!

O ran y Gymraeg, er roedd taid yn siarad Cymraeg iaith gyntaf, ni phasiodd o’r iaith at ei ferch, dyna pam do’n i ddim yn siarad Cymraeg
pan o’n i’n blentyn. Ond dysgais i fel oedolyn mewn cyrsiau yn Nhrelew, diolch i Brosiect Dysgu Cymraeg yn y Wladfa; ac ar ôl dwy flynedd o ddysgu fy hun, dechreuais i ddysgu oedolion, a hynny 18 mlynedd yn ôl. Dw i hefyd yn rhan o nifer o gymdeithasau Cymreig sy’n gweithio dros yr iaith a’r traddodiadau yn y Wladfa.

Ces i’r cyfle arbennig o wneud cwrs Gradd yn y Gymraeg ar-lein ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan a gwnes i raddio yn 2014.
Gan fy mod i’n hoffi ysgrifennu ers pan o’n blentyn, pan oedd digon o Gymraeg gyda fi, ddechreuais i lunio cerddi, ac ar ôl blynyddoedd, dechreuais i gystadlu mewn eisteddfodau lleol. Dyna sut ces i fy nghadair gyntaf yn 2019, ac ers hynny enillais i dair arall. Rhaid dweud taw cerddi rhydd sydd angen ysgrifennu fan hyn, ond yn 2021, ar ôl gwneud cwrs Cynghanedd gydag Ysgol Farddol Gaerfyrddin, enillais i gadair gyda cherdd mewn cynghanedd.

Wrth drafod ei gobeithion am raglen Pencerdd, dywedodd Ana:
"Nid oes llawer o bobl ar ôl fan hyn sy’n gallu cynganeddu, felly, fyddai’n hyfryd cael dysgu ddigon gyda’r cynllun hwn i allu dysgu pobl fan hyn a rhoi bywyd eto i’r gynghanedd yn y Wladfa.

Dw i wedi rhyfeddu gyda’r gynghanedd ers i mi glywed amdani am y tro cyntaf. Fel dysgwraig, nid oedd yn hawdd sylweddoli fod ’na dechneg arbennig yn y cerddi, ac wrth ddod i ddarllen mwy a mwy, ro’n i wir eisiau ei dysgu. Yn anffodus, does neb yn dysgu cynganeddu yn y Wladfa a do’n i ddim wedi cael y cyfle i ymuno â chwrs tan y cyfnod clo, pan gynigiodd Ysgol Farddol Caerfyrddin gwrs ar-lein. Gwnes i wirioni gyda’r system a’i holl reolau, ac dw i wedi bod yn trio llunio cerddi mewn cynghanedd ers hynny.

Gwnes i ymuno hefyd â’r cwrs gynigiodd Eisteddfod Amgen, ac ym mis Tachwedd diwetha, â chwrs gan Fenter Caerdydd , dyna le clywais i am y cynllun Pencerdd. Gyda’r cynllun, dw i’n gobeithio datblygu a gwella fy sgiliau cynganeddol, dysgu mwy am y gwahanol fathau o gerddi mewn cynghanedd a chreu cerddi all fod yn werthfawr i’r casgliad llenyddol y Wladfa. Hefyd, hoffwn i ddysgu’r dechneg yn ddigon da i allu dysgu pobl eraill, unai yn Y Wladfa neu ar-lein i unrhyw un â diddordeb.”

Cau