Tanio: Sut i ‘sgwennu ar gyfer pobl ifanc
Mae’r cwrs yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu eich crefft mewn amgylchedd creadigol a chefnogol, ochr yn ochr â charfan o awduron eraill sy’n rhannu angerdd dros adrodd straeon i ddarllenwyr ifanc. Drwy weithdai, sesiynau adborth a chyfleoedd i gwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r sector llyfrau plant, bydd cyfranogwyr yn datblygu eu sgiliau creadigol ac yn cael gwell dealltwriaeth o’r llwybrau sydd ar gael tuag at gyhoeddi.
Cynhelir y cwrs preswyl rhwng 1-5 Mawrth 2027 yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gyda chymorth pellach yn dilyn y cwrs, gan gynnwys sesiynau adborth digidol, cyswllt â chyhoeddwyr ac asiantau llenyddol, a chynllun ôl-ofal sy’n cefnogi cyfranogwyr wrth ddatblygu eu gwaith ymhellach.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron ar amrywiaeth o gamau yn eu datblygiad creadigol. P’un a ydych newydd ddechrau ysgrifennu neu’n awyddus i ddatblygu i gyfeiriad newydd, rydym am glywed gennych os oes gennych lais creadigol cryf a diddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer plant.
Bydd hyd at 14 o gyfranogwyr yn cael eu dewis i gymryd rhan ar y cwrs, sy’n rhad ac am ddim i’r rhai sy’n llwyddiannus.